Astudio dramor

Dinas Prague ar frig yr hwyr

Archwiliwch ddiwylliannau eraill, heriwch eich hun a chasglwch brofiadau a fydd yn helpu gyda'ch gyrfa yn y dyfodol.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle oes i chi astudio, gwirfoddoli neu weithio mewn gwlad arall, am flwyddyn academaidd, semester sengl neu ychydig wythnosau yn y gwyliau. 

Mae cael amrywiaeth o brofiadau'n werthfawr ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol, ac fe gewch gyfleoedd gwych i astudio dramor yn ystod eich gradd. Mae gennym Gydlynydd Cyfnewid penodol sy'n gallu cynghori myfyrwyr yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru sy'n awyddus i ganfod mwy am astudio dramor. Bydd Dr Sian Nicholas, ein Cydlynydd, yn eich cefnogi yn ystod y broses gwneud cais.

Mae gennym swyddfa Cyfleoedd Byd-eang ym Mhrifysgol Aberystwyth hefyd a fydd yno i'ch helpu i ganfod atebion i'ch cwestiynau cyn, yn ystod ac ar ôl eich taith.

Canfod ble gallwch chi fynd yn fyfyriwr yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru 

Manteision astudio dramor

Gall astudio yn un o'n prifysgolion partner gynnig persbectif newydd i chi ar eich pwnc a'r cyfle i ddyfnhau ac ategu'ch astudiaethau yn Aberystwyth.

Gall yr amser a dreulir yn archwilio gwlad a diwylliant newydd hogi'ch sgiliau rhyngbersonol, gwella'ch gallu iaith, ac ehangu eich meddylfryd rhyngwladol.

Os yw treulio cyfnod dramor yn rhywbeth sy'n apelio i chi, ewch ati i ganfod mwy. Bydd ein cydlynydd cyfnewid penodol ar gyfer myfyrwyr yr Adran Hanes a Hanes Cymru, Dr Sian Nicholas, a staff yn ein tîm Cyfleoedd Byd-eang yn hapus i helpu.

Profiadau cyn-fyfyrwyr

Ar gyfer fy mlwyddyn dramor, es i i Brifysgol Charles yn Prague. Gwnes i fwy na dilyn y gwaith academaidd yn unig: gweithiais i bapur newydd y brifysgol, a rhoddais ddarlith i grŵp o fyfyrwyr Erasmus ac o'r Weriniaeth Tsiec hefyd. Fe wnes i'r mwyaf o ddarganfod Prague a'r gwledydd eraill sydd o gwmpas y wlad. Drwyddi draw, cefais i brofiad gwych a oedd yn agoriad llygad i mi. Ychwanegodd hyn liw i fy ngradd, gan roi mwy o werth a chadernid iddi.

Drwy gymryd rhan yn Erasmus, rydych yn cael eich taflu i mewn i wlad estron gydag iaith wahanol, ac mae rhaid ichi gynefino â'r safonau a'r systemau newydd o wneud pethau, yn ogystal â'r llety. Mae fel bod yn y flwyddyn gyntaf eto, ond gydag anawsterau ychwanegol. Wedi dweud hynny, mae'n werth mynd yn ddi-os oherwydd ei fod yn werthfawr o ran dod o hyd i swydd, ac yn rhoi'r hawl i chi i frolio, yn broffesiynol ac yn gymdeithasol!

William Hannell, Myfyriwr Rhaglen Gyfnewid Erasmus o'r Adran Hanes a Hanes Cymru, 2013/2014