Ymchwilio i hanes meddygaeth lysieuol yng Nghymru cyn y GIG

Llyfrau hunangymorth meddygol a llysieuol
24 Tachwedd 2025
Bydd prosiect ymchwil newydd yn craffu ar hanes meddygaeth lysieuol yng Nghymru, gan ystyried sut y defnyddiwyd planhigion i drin salwch a hybu iechyd cyn sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Yn cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth, mae’r prosiect yn astudio beth y gall meddygaeth lysieuol oddeutu troad yr ugeinfed ganrif ei ddatgelu am brofiad y Cymry o iechyd a salwch, perthynas pobl â natur a rôl newidiol meddygaeth mewn bywyd modern.
Drwy astudio llyfrau hunangymorth meddygol a llysieuol a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod, bydd yr astudiaeth yn olrhain sut y datblygodd arferion llysieuol yng Nghymru.
Bydd yn edrych ar draddodiadau brodorol hirhoedlog, rhai yn dyddio'n ôl i'r oesoedd canol yng ngwaith Meddygon Myddfai a gafodd eu cynnwys yn y llyfrau hunan-gymorth llysieuol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Bydd yr ymchwil hefyd yn ystyried dylanwad arferion Prydeinig o'r cyfnod modern cynnar a’r syniadau llysieuol newydd a ddaeth o America yn y 1840au.
Bydd y prosiect hefyd yn ymchwilio i ddatblygiadau yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, pan ddaeth agweddau newydd at iechyd a lles o achos safonau byw gwell, datblygiadau mewn meddygaeth wyddonol a sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Dywedodd Dr Steve Thompson, Pennaeth Adran Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth:
”Mae ymchwilio i hanes meddygaeth lysieuol yng Nghymru yn datgelu sut roedd pobl yn deall ac yn gofalu am eu hiechyd o fewn eu cymunedau. Mae'r traddodiadau hyn yn dweud llawer wrthym am ddiwylliant Cymru, ein cysylltiad â'r tir a sut roedd pobl yn ymateb i salwch cyn i feddygaeth fodern gyrraedd.”
Arweinir y prosiect gan Brifysgol Aberystwyth ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Bydd yn tynnu ar gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru o lyfrau hunangymorth meddygol a llysieuol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ochr yn ochr â chasgliadau arwyddocaol Amgueddfa Cymru, gan gynnwys casgliadau llawysgrif o ryseitiau llysieuol a recordiadau o gyfweliadau hanes llafar.
Yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, bydd yr astudiaeth yn tynnu ar Neuadd Apothecari, casgliad planhigion, llysieufa a banc hadau, gan gynnig cyswllt cyfoes â'r traddodiadau llysieuol sy'n cael eu hymchwilio.
Dywedodd Dafydd Pritchard, Pennaeth Adnau Cyfreithiol a Gwasanaethau Astudio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae’r prosiect hwn yn gyfle i ddangos gwerth ac ystod pob math o gasgliadau sy’n byw yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac yn caniatáu i arbenigwyr a disgyblaethau o wahanol sefydliadau gyfrannu tuag at y pwnc arbennig hwn.”
Nod y prosiect yw ateb cwestiynau allweddol am sut y datblygodd meddygaeth lysieuol yng Nghymru yn y cyfnod modern: sut yr oedd yn cymharu ag arferion mewn mannau eraill a beth mae'r newidiadau hyn yn ei ddatgelu am y trawsnewidiad cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol ehangach cyn sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym 1948.
Dywedodd Dr Sioned Williams, Prif Guradur Hanes Modern yn Amgueddfa Cymru:
“Dyma gyfle arbennig i ymchwilio yn ddwfn i gasgliadau Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Gobeithio bydd ffrwyth yr ymchwil yn datgelu hanesion newydd am ein casgliadau cenedlaethol ac yn ein galluogi i’w rhannu gyda cynulleidfaoedd gwahanol.”
Ychwanegodd Dr Laura Jones, Swyddog Gwyddoniaeth yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru:
“Mae'r prosiect hwn yn gyfle cyffrous i archwilio ymhellach y cysylltiadau rhwng treftadaeth planhigion Cymru a meddygaeth lysieuol, gan lywio ein dealltwriaeth fodern o blanhigion meddyginiaethol a sut mae'r straeon hyn yn cael eu hadlewyrchu yng nghasgliadau'r Ardd.”
Mae ysgoloriaeth ddoethurol wedi'i hariannu'n llawn ar gael ar gyfer y prosiect hwn drwy Gynllun Partneriaeth Doethurol Cydweithredol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy fynd i: https://www.aber.ac.uk/cy/doctoral-academy/cyfleoeddariannu/
AU24425