Trydan

Nodwch:

1. Dylai unrhyw gyfarpar trydanol personol a ddaw i adeiladau academaidd y Brifysgol sydd i’w gysylltu â’r prif gyflenwad trydan gael eu profi am ddiogelwch trydanol cyn eu defnyddio.

 Ni chaniateir rhai eitemau penodol o gyfarpar trydanol sydd yn eiddo preifat ac sy'n cysylltu â'r prif gyflenwad trydan. Maent yn cynnwys:

  • Gwresogyddion Ystafell (o unrhyw fath)
  • Tegellau neu beiriannau coffi
  • Tostiwr neu offer coginio arall
  • Gwyntyllau (ffaniau) neu unedau awyru cludadwy
  • Arfau gwaith trydan

Os oes  angen eitemau o'r fath, fe ddylid eu cael (os ceir cymeradwyaeth amdanynt) gan yr adran dan sylw a’u cyflwyno ar gyfer profion PAT. Os oes unrhyw amheuaeth, cysylltwch ag Ymgynghorydd Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd am gyngor.

2. Dylai myfyrwyr a staff sy'n preswylio yn llety Prifysgol Aberystwyth ddilyn y canllawiau a nodir gan Wasanaethau Preswyl a Chroeso.

3. Rhaid i gontractwyr ddilyn y rheolau a nodir gan yr Adran Datblygu Ystadau a'r Gwasanaethau Campws.

Profi Offer Trydanol Cludadwy

Yr adrannau sy'n gyfrifol am sicrhau bod eu hoffer trydanol cludadwy yn ddiogel; gellir gwneud hyn drwy drefn brofi reolaidd a wneir gan unigolion cymwys (un ai staff adrannol neu gontractwyr trydanol).

Isod ceir amserlen a awgrymir ar gyfer profi offer a ddefnyddir mewn amgylcheddau risg isel isod. Dylid profi offer a ddefnyddir mewn amgylcheddau risg uwch (fel safleoedd adeiladu a ffermydd) yn fwy aml – mae gan yr HSE arweiniad (gwelwch y linc isod). Dylid profi unrhyw offer a fenthycwyd (er enghraifft i fyfyrwyr ar gyfer prosiect) bob tro pan fydd yn cael ei ddychwelwyd.

Mae’r Adran Datblygu Ystadau wedi sicrhau telerau arbennig i'r Brifysgol ar gyfer profi PAT gyda darparwr gwasanaeth lleol. Efallai y dymuna'r adrannau fanteisio ar y gwasanaeth hwn:PAT testing rates, Electrical Estimates Ltd. 

Cyfnodau a awgrymir ar gyfer profion

(Swyddfeydd ac amgylcheddau eraill risg isel yn unig)

Offer / Amgylchedd

Archwiliad Defnyddiwr

Archwiliad Gweledol Ffurfiol

Archwiliad a phrawf Cyfun

Gweithio ar fatri:
  (llai na 40 folt)

Na

Na

Na

Foltedd isel iawn:
  (llai na 50 folt AC) e.e. offer ffôn, golau desg foltedd isel

Na

Na

Na

Technoleg Gwybodaeth: e.e. cyfrifiaduron, sgrîn VDU

Na

Ie
  2 - 4 mlynedd

Nid os yw wedi’i ynysu’n ddwbl
  Fel arall hyd at 5 mlynedd

Llungopïwyr, peiriannau ffacs: NID un a ddelir yn y llaw. Symudir yn   anaml

Na

Ie
  2 - 4 mlynedd

Nid os yw wedi’i ynysu’n ddwbl
  Fel arall hyd at 5 mlynedd

Offer wedi’i ynysu’n ddwbl: NID un a ddelir yn y llaw. Symudir weithiau,  
  e.e. ffan, lamp, taflunydd

Na

Ie
  2 – 4 mlynedd

Na

Offer wedi’i ynysu’n ddwbl: A DDELIR YN Y LLAW e.e. rhai glanhawyr   llawr

Ie

Ie
  6 mis 1 blwyddyn

Na

Offer wedi’i ddaearu (Dosbarth 1): e.e. tecell trydan, rhai glanhawyr llawr

Ie

Ie
  6 mis 1 blwyddyn

Ie
  1 - 2 mlynedd

Gwifrau a phlygiau wedi’u cysylltu i’r uchod.
  Gwifrau estyn (foltedd o’r prif gyflenwad)

Ie

Ie
  6 mis - 4 mlynedd
  yn dibynnu ar y math o offer a gysylltir iddo

Ie
  1 - 5 mlynedd
  yn dibynnol ar y math o offer a gysylltir iddo

ON. Wrth adolygu pa mor aml y dylid cynnal archwiliad dylid defnyddio profiad o weithredu’r system gynhaliaeth dros gyfnod o amser, ynghyd â gwybodaeth am ddiffygion a ganfyddir.

Dylid defnyddio hyn hefyd i ystyried a oes angen prawf ac archwiliad cyfun ar yr offer a’r gwifrau a phlygiau dderbyn, a pha mor aml.