Diogelwch Tân

Sut i ddefnyddio diffoddydd tân

Mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i bob aelod o’r staff dderbyn cyfarwyddyd diogelwch priodol. Felly, dylai unrhyw un sy’n debygol o orfod defnyddio diffoddyddion tân gael hyfforddiant ynglŷn â’u defnyddio a chyfarwyddyd sylfaenol ynglŷn ag ymladd tân.

Bydd hyn yn fodd o osgoi oedi oherwydd petruso neu ymdrechion aflwyddiannus i weithio’r offer.

Mae’r daflen hon yn amlinellu technegau ymladd tân priodol.

Mae hefyd yn dangos sut y mae’r codio lliw yn newid. Mae’r math newydd o ddiffoddyddion yn cydymffurfio â Safon Ewrop BS EN 3, ac mae eu corff yn hollol goch â rhannau dewisol o liw, hyd at 5% o’r arwynebedd, i ddangos beth yw’r cynnwys. Mae diffoddyddion sy’n cydymffurfio â’r hen safon, BS5423, wedi’u dangos yn yr hen enghreifftiau yn y daflen hon. Mae’r ddau fath yn addas i’w defnyddio, cyhyd â’u bod yn gweithio’n iawn.

Mae tân yn lledaenu’n gyflym, ac mae’n rhaid ymateb yn gyflym. Os oes rhywun yn agos, dywedwch wrthynt am roi gwybod i rywun am y tân ac yna roi cymorth i chi. Dim ond ar gyfer tanau bach y dylid defnyddio diffoddyddion.

Peidiwch â pharhau i ymladd tân os:

  • yw’n beryglus i wneud hynny,
  • yw’n bosib y gallai’r tân neu’r mwg rwystro eich ffordd o ddianc,
  • yw’r tân yn dal i ledaenu er gwaethaf eich ymdrechion,
  • oes silindrau nwy sydd dan fygythiad oherwydd y tân.

Os oes yn rhaid i chi encilio, caewch ffenestri a drysau ar eich ôl lle bynnag y bo’n bosib.

Peidiwch â defnyddio diffoddydd tân i ddiffodd tân lle mae nwy yn llosgi. Diffoddwch y cyflenwad nwy os yw’n ddiogel i wneud hynny neu gadewch y mathau hyn o dân i’r frigâd dân. 

  • Cyn dechrau ymladd hyd yn oed y tân lleiaf, sicrhewch fod y larwm wedi’i seinio a’r trefniadau tân wedi’u rhoi ar waith.
  • Sefwch yn rhywle lle mae modd mynd at y tân ond lle gallwch ymadael yn gyflym ac yn ddiogel. Er enghraifft ar yr ochr sydd agosaf at allanfa neu, pan fo’r tân y tu allan i adeilad, yn groes i’r gwynt.
  • Bydd cyrcydu’n helpu’r gweithredydd i osgoi’r mwg a’r gwres ac i fynd yn nes at y tân.
  • Sicrhewch fod y tân wedi’i ddiffodd yn gyfan gwbl ac nad yw’n debygol o ailgynnau neu barhau i fudlosgi.

Dŵr

Yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o danau heblaw’r rhai lle mae hylifau fflamadwy neu gyfarpar trydanol byw.

Dull

  • Cyfeiriwch y chwistrell at waelod y fflamau a’i symud yn ôl a blaen yn ardal y tân.
  • Chwiliwch am unrhyw ardaloedd poeth wedi i’r prif dân ddiffodd.
  • Dylid ymosod ar dân sy’n lledaenu’n fertigol yn y man isaf a dilyn y tân i fyny.

Carbon Deuocsid

Yn addas ar gyfer tân lle mae hylifau fflamadwy neu gyfarpar trydanol.

Dull

Dull a chyfarwyddiadau fel y rhai ar gyfer powdr sych.

  • Ni ddylid defnyddio diffoddydd carbon deuocsid mewn ardaloedd cyfyng, lle mae perygl y gellid anadlu’r mygdarth.
  • Peidiwch â dal y corn gan ei fod yn mynd yn oer iawn wrth ei ddefnyddio.

Ewyn

Yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o danau lle mae hylifau fflamadwy.

Dull

  • Lle mae’r hylif sydd ar dân mewn cynhwysydd, cyfeiriwch y chwistrell at du mewn y cynhwysydd neu at wyneb fertigol cyffiniol uwchben lefel yr hylif sy’n llosgi. Mae hyn yn torri’r chwistrell ac yn caniatáu i’r ewyn ymgasglu a llifo ar hyd arwynebedd yr hylif er mwyn mygu’r tân.
  • Lle nad yw hynny’n bosib, sefwch yn ôl, cyfeiriwch y chwistrell â symudiad ysgubo esmwyth, gan adael i’r ewyn gwympo i lawr a gorwedd ar wyneb yr hylif.
  • Peidiwch ag anelu’r chwistrell yn syth at yr hylif oherwydd bydd hyn yn anfon yr ewyn o dan yr wyneb ac yn peri iddo fod yn aneffeithlon. Yn ogystal, gallai dasgu’r tân o amgylch y lle.

Powdr Sych

Yn addas ar gyfer tanau lle mae hylifau fflamadwy neu gyfarpar trydanol.

Dull

  • Ar gyfer tanau lle mae naill ai hylif mewn cynhwysydd neu hylif wedi’i sarnu, cyfeiriwch y chwistrell neu’r corn tuag at ben agosaf y tân. Â symudiad ysgubo cyflym gyrrwch tuag at yr ymyl bellaf hyd nes y bydd pob fflam wedi’i ddiffodd.
  • Ar gyfer tanau lle mae hylifau sy’n llifo, cyfeiriwch y chwistrell neu’r corn at waelod y fflamau a symudwch i fyny.
  • Ar gyfer tanau mewn offer trydanol, diffoddwch y cerrynt cyn cyfeirio’r chwistrell neu’r corn yn syth at y tân.
  • Lle mae’r offer wedi’u hamgáu, cyfeiriwch y chwistrell neu’r corn i mewn i unrhyw agoriad er mwyn cyrraedd tu fewn yr offer.
  • Pan fo’r tân i’w weld yn diffodd, caewch y llif ac arhoswch hyd nes y bydd yr aer yn clirio. Os oes unrhyw fflamau i’w gweld o hyd, chwistrellwch eto.