Diogelwch Tân

Llawlyfrau Diogelwch Tân Adeiladau’r Brifysgol

Wardeiniaid Tân

Bydd gan bob aelod o staff bellach y rôl o fod yn Wardeiniaid Tân ar gyfer eu hadeilad ac mae ganddynt rôl ragweithiol bwysig wrth atal tân. 

Dylent 'gymryd perchnogaeth' o'r ardaloedd o ymgylch eu swyddfeydd a monitro eu llwybrau gwagio'r adeilad o ddydd i ddydd a rhoi gwybod ar unwaith i Wasanaethau'r Campws (neu eu symud fel y bo'n briodol) am unrhyw wrthrychau sy'n peri risg diogelwch tân (megis sbwriel llosgadwy, drysau tân wedi'u cadw ar agor, llwybrau gwagio'r adeilad wedi'u peryglu e.e. gan ddodrefn tn cael eu storio 'dros dro' mewn coridorau, neu unrhyw beth a allai eich rhwystro rhag gallu agor y drysau dianc rhag tân).

Dylent ddod yn gyfarwydd â'r offer diffodd tân yn eu hardaloedd a rhoi gwybod i Wasanaethau'r Campws os bydd offer yn diflannu neu os yw tagiau'r diffoddwyr tân wedi torri.  Rhaid iddynt hefyd wirio bod y Cardiau Gwagio'r Adeilad a'r siacedi llachar yn eu daliwr - os nad ydynt, rhowch wybod i'r swyddfa iechyd, diogelwch a'r amgylchedd ar unwaith.

Adeiladau Academaidd

  • Canolfan Addysg Milfeddygaeth
  • IBERS Gogerddan
  • Canolfan Addysg Gofal Iechyd
  • Cwrt Mawr L
  • Undeb Myfyrwyr
  • Hugh Owen
  • Arglwydd Milford
  • AIEC
  • Cledwyn
  • Edward Llwyd
  • Gwendolen Rees
  • Parry Williams
  • Padarn
  • Thomas Parry
  • P5
  • Canolfan Ddelweddu
  • SP12
  • Carwyn James
  • Gwleidyddiaeth Ryngwladol
  • Gwyddorau Ffisegol
  • Elystan Morgan
  • Edward Davies
  • Rheidol
  • Llandinam

Adeiladau Preswyl

Gweler y Llawlyfr Preswylfeydd a gwybodaeth am y gwahanol breswylfeydd ar wefan y Swyddfa Llety: Ein Preswylfeydd.