Offer Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE)

AILDDEFNYDDIO NEU AILGYLCHU

 

Os yw’r offer yn ddigon bach a ddim yn cynnwys data mwyach, rhowch eich offer yn y bin y tu allan i weithdy’r Gwasanaethau Gwybodaeth neu ei anfon i Weithdy’r Gwasanaethau Gwybodaeth drwy’r post, gan roi ‘Offer Trydanol ac Electronig Gwastraff’ ar yr amlen.

 

Os oedd gwerth gwreiddiol eich ased yn fwy na £10,000 rhaid llenwi Ffurflen Gwaredu Ased Sefydlog a’i dychwelyd i’r Adran Gyllid cyn ei waredu.

 

  • Mae’n rhaid storio offer yn ddiogel cyn eu gwaredu.
  • Dylid dadlygru offer cyn eu gwaredu os yw’n berthnasol (e.e. offer labordy).

 

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn casglu offer trydanol ac electronig gwastraff yn rhad ac am ddim. I drefnu casgliad ar gyfer nifer fawr o eitemau, cysylltwch â Gwasanaethau’r Campws yn uniongyrchol ar efastaff@aber.ac.uk.