Gweithio ar uchder

Mae damweiniau wrth weithio ar uchder yn un o brif achosion marwolaeth ac anafiadau yn y DU ac mae deddfwriaeth y DU yn cael ei chryfhau.

Daeth y Rheoliadau Gweithio ar Uchder i rym ar 6ed Ebrill 2005. Mae’r Rheoliadau'n berthnasol i bob achos o weithio ar uchder pan fo risg o gwympo a all achosi anaf personol. Maent yn gosod dyletswydd ar gyflogwyr, pobl hunangyflogedig, a phawb sydd yn rheoli gwaith pobl eraill (er enghraifft rheolwyr cyfleusterau neu berchnogion adeiladau a all gontractio pobl eraill i weithio ar uchder).

Mae Rheoliadau Gweithio ar Uchder (Diwygio) 2007 a ddaeth i rym ar 6ed Ebrill 2007 yn berthnasol i'r rhai sydd yn gweithio ar uchder wrth ddarparu hyfforddiant neu arweiniad i un neu fwy o bobl wrth ogofa neu ddringo fel rhan o weithgareddau chwaraeon, hamdden, adeiladu tîm neu weithgareddau tebyg ym Mhrydain.

Fel rhan o’r Rheoliadau, rhaid i ddeiliaid dyletswyddau sicrhau fod:

  • pob gwaith ar uchder wedi’i gynllunio a’i drefnu’n iawn;
  • pawb sy’n gysylltiedig â gwaith ar uchder yn gymwys ar gyfer y gwaith hwnnw;
  • risgiau'r gwaith ar uchder wedi’u hasesu a bod offer gwaith priodol yn cael eu dewis a'u defnyddio;
  • risgiau arwynebau a all dorri'n hawdd yn cael eu rheoli; a bod
  • yr offer ar gyfer gweithio ar uchder wedi’u harchwilio a'u cynnal yn iawn.

Mae hierarchaeth syml ar gyfer rheoli gwaith ar uchder ac ar gyfer dewis offer. Rhaid i ddeiliaid dyletswyddau:

  • osgoi gweithio ar uchder lle bynnag y bo hynny'n bosib;
  • defnyddio offer gweithio neu gymryd camau eraill i atal cwympo lle na ellir osgoi gweithio ar uchder; ac
  • lle na ellir dileu risg cwympo, rhaid iddynt ddefnyddio offer gweithio neu gymryd camau eraill i leihau’r pellter a chanlyniadau unrhyw gwymp, petai hynny’n digwydd.

Mae’r Rheoliadau yn cynnwys amserlen yn gosod gofynion ar gyfer gweithleoedd ac ar gyfer ffyrdd o gyrraedd gwaith ar uchder, dulliau o rwystro cwympo i'r gweithwyr i gyd (e.e. rheiliau canllaw a phlatfformau gweithio), dulliau o gynnal gweithwyr pe baent yn cwympo (e.e. rhwydi a bagiau awyr, ayyb), a dulliau o ddiogelu unigolion (e.e. harneision gwaith, dulliau cynnal pe bai'r unigolyn yn cwympo, rhaffau) ac ysgolion.

Gwybodaeth Bellach