Athena Swan yn IBERS
Mae Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau a chreu amgylchedd cynhwysol i'r holl staff a myfyrwyr. Mae ein gwaith yn cael ei arwain gan Siarter Athena Swan, sy'n cydnabod ac yn dathlu cynnydd mewn cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant ar draws addysg uwch ac ymchwil.
Ein Dull o Weithio
Mae Athena Swan yn IBERS yn cael ei gyflwyno trwy broses strwythuredig o hunanasesu, myfyrio a gweithredu. Mae’r gwaith hwn yn cael ei arwain gan dîm ymroddedig, Tîm Hunanasesu Athena Swan, gyda chynrychiolaeth o bob rhan o'r Athrofa a chefnogaeth grwpiau ehangach Prifysgol Aberystwyth.
Mae'r tîm yn adolygu data, yn casglu adborth gan staff a myfyrwyr, ac yn pwyso a mesur polisïau ac arferion presennol i nodi meysydd i'w gwella trwy gynllun gweithredu CAMPUS. Mae'r dull hwn sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn sicrhau bod ein gweithgareddau yn ymateb i anghenion a phrofiadau ein cymuned.
Gweithio Tuag At Wobr Efydd Adrannol Athena Swan
Ar hyn o bryd mae IBERS yn paratoi cyflwyniadau ar gyfer asesu allanol. Mae'r cyflwyniadau hyn yn dod a’r canlynol at ei gilydd:
- Dadansoddi data meintiol ac ansoddol
- Cloriannu cynnydd ac effaith
- Nodi heriau a blaenoriaethau allweddol
- Cynllun gweithredu blaengar i gefnogi gwelliant parhaus
Dyfernir gwobrau cychwynnol ar lefel Efydd, ac Arian ac Aur wedi hynny ar lefelau uwch, sy'n cydnabod yr ymrwymiad a'r cynnydd a wnaed tuag at hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau o fewn IBERS.
Monitro Cynnydd ac Effaith
Proses barhaus yw Athena Swan, nid cais untro. Yn IBERS, ar ôl cyflwyno, byddwn yn:
- Adolygu'r cynnydd yn rheolaidd ar sail ein cynllun gweithredu
- Cloriannu effeithiolrwydd mentrau a gweithgareddau
- Diweddaru ein blaenoriaethau wrth ymateb i dystiolaeth ac adborth newydd
- Paratoi ar gyfer cyflwyniadau ac adnewyddu gwobrau yn y dyfodol
Mae'r cylch parhaus hwn yn sicrhau bod ein gwaith yn arwain at newid ystyrlon a chynaliadwy.
Y Prif Feysydd Ffocws
Mae ein blaenoriaethau Athena Swan yn cael eu llywio gan ddata, ymgynghori, a hunanasesu parhaus. Er bod y manylion yn esblygu dros amser, mae'r meysydd ffocws fel arfer yn cynnwys:
- Cynrychiolaeth o Blith y Rhywiau a Recriwtio
Deall lle ceir anghydbwysedd rhwng y rhywiau a hyrwyddo arferion recriwtio teg a chynhwysol i wella cynrychiolaeth ar draws rolau ac ymhob cyfnod o ran gyrfa. - Dilyniant Gyrfa, Dyrchafiad ac Arweinyddiaeth
Cefnogi hawl cyfartal i gyfleoedd datblygu, dilyniant ac arweinyddiaeth, a mynd i'r afael â rhwystrau o ran dyrchafiad i fenywod a grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. - Gweithio Hyblyg, Llwyth gwaith a Seibiannau mewn gyrfa
Adolygu polisïau ac arferion sy'n ymwneud â gweithio hyblyg, cyfrifoldebau gofal, dyrannu llwyth gwaith, a chymorth cyn, yn ystod ac ar ôl seibiannau mewn gyrfa. - Diwylliant, Cynhwysiant a Lles
Creu amgylchedd sy’n dangos parch ac sy’n gefnogol lle mae'r holl staff a myfyrwyr yn teimlo eu bod wedi’u cynnwys, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu ffynnu. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael ag ymddygiadau amhriodol neu annerbyniol lle bo angen. - Llywodraethu, Atebolrwydd a Gweithredu ar Sail Tystiolaeth
Defnyddio data, adborth staff a myfyrwyr, ac adolygiadau rheolaidd i nodi blaenoriaethau, monitro cynnydd, a sicrhau bod gweithgarwch Athena Swan yn arwain at newid ystyrlon.
Ein Hymrwymiad
Mae IBERS wedi ymrwymo i ymgorffori egwyddorion Athena Swan yn ein diwylliant, ein llywodraethu a'n harferion bob dydd. Rydym yn cydnabod bod gwella cydraddoldeb a chynhwysiant yn gofyn am ymdrech barhaus ac ymrwymiad ar y cyd ar draws yr Athrofa.
Cymryd rhan
Mae Athena Swan yn IBERS yn cael ei ffurfio gan brofiadau a chyfraniadau ein cymuned. Rydym yn annog staff a myfyrwyr i rannu eu barn a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cefnogi'r gwaith hwn.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gyfrannu at Athena Swan yn IBERS, cysylltwch â: Jessica Adams [jaa@aber.ac.uk]
