Ymrwymiad i’r Technegydd

 

Ymrwymiad i’r Technegydd yn IBERS

Mae Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn falch o gefnogi'r Ymrwymiad i’r Technegydd, sy’n cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae technegwyr yn ei wneud i'n hymchwil, ein gwaith dysgu a'n harloesi.

Ein Cynnydd a'n Cynlluniau

Yn rhan o'n hymrwymiad, rydym yn cyhoeddi adolygiad blynyddol o'n cynnydd ochr yn ochr â'n cynllun gweithredu:

Mae'r dogfennau hyn yn amlinellu sut mae IBERS yn cefnogi pedair colofn yr Ymrwymiad i’r Technegydd:

  1. Gwella Amlygrwydd
  • Rhoi llwyfan i gyfraniadau technegwyr trwy astudiaethau achos, y cyfryngau cymdeithasol, a digwyddiadau
  • Tynnu sylw at rolau technegol mewn cynnyrch ymchwil a straeon am effaith ymchwil
  1. Cryfhau Cydnabyddiaeth
  • Annog achredu proffesiynol ac aelodaeth o gyrff perthnasol
  • Sicrhau bod cyfraniadau'n cael eu cydnabod mewn cyhoeddiadau a phrosiectau
  1. Cefnogi Datblygu Gyrfaol
  • Sicrhau bod cyfleoedd am ddatblygu proffesiynol a hyfforddiant ar gael yn ehangach
  • Cefnogi llwybrau gyrfaol a fframweithiau dilyniant gyrfaol
  1. Methrin Cynaliadwyedd
  • Ymgorffori llwybrau gyrfaol technegol wrth gynllunio'r gweithlu
  • Cefnogi cynllunio olyniaeth a chadw sgiliau

Ein Hymrwymiad

Mae IBERS wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle mae staff technegol yn amlwg, yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi, a lle gall eu sgiliau a'u harbenigedd ddatblygu a ffynnu.

Cymryd rhan

Rydym yn mynd ati i annog adborth, syniadau a chyfranogiad gan ein staff technegol.

Os hoffech ddysgu mwy am yr Ymrwymiad i’r Technegydd yn IBERS neu gyfrannu at ein gwaith, cysylltwch ag:

Alison Kingston-Smith: ahk@aber.ac.uk