Diwylliant Ymchwil yn IBERS

 

Mae Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn cydnabod bod ymchwil ac arloesi rhagorol yn cael eu hategu gan ddiwylliant ymchwil cadarnhaol, cynhwysol a chefnogol. Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle mae'r holl staff a myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn gallu cyfrannu, ac yn gallu datblygu eu sgiliau a'u gyrfaoedd.

Ein Dull o Weithio

Mae ymagwedd IBERS tuag at ein diwylliant ymchwil yn cyfuno arweinyddiaeth strategol ag ymroddiad cryf ein staff a’n myfyrwyr. Ers 2022, rydym yn datblygu trefniadau sy'n galluogi deialog agored, gwneud penderfyniadau ar y cyd, a gwella parhaus.

Grwpiau Llais a Chynrychiolaeth

Grwpiau Llais a Chynrychiolaeth

Mae Grwpiau Llais wrth wraidd diwylliant ymchwil yn IBERS. Mae'r grwpiau hyn yn dod â staff a myfyrwyr at ei gilydd ar draws gwahanol rolau, gan gynnwys ymchwilwyr, technegwyr, staff y gwasanaethau proffesiynol, ac uwchraddedigion.

Mae pob grŵp yn:

  • Darparu fforwm ar gyfer trafod materion allweddol
  • Enwebu cynrychiolwyr i'r Pwyllgor Diwylliant Ymchwil
  • Cyfrannu'n uniongyrchol at lunio diwylliant a blaenoriaethau IBERS

Y Pwyllgor Diwylliant Ymchwil

Y Pwyllgor Diwylliant Ymchwil

Mae'r Pwyllgor Diwylliant Ymchwil yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr o'r holl Grwpiau Llais ac yn cydweithio'n agos ag arweinyddiaeth IBERS i:

  • Adolygu adborth o bob rhan o'r Athrofa
  • Pennu blaenoriaethau a chytuno ar gamau gweithredu
  • Helpu i roi gwelliannau ar waith

Mae diweddariadau a datblygiadau’n cael eu rhannu'n rheolaidd â'r holl staff a myfyrwyr, gan sicrhau ein bod yn gweithredu’n agored ac atebol.

Ein Gweithgareddau

Ein Gweithgareddau

Mae gweithgareddau diweddar ar y diwylliant ymchwil yn IBERS yn cynnwys:

  • Sefydlu Grwpiau Llais ledled IBERS i wella cysylltiadau a chyfathrebu
  • Creu Pwyllgor Diwylliant Ymchwil i gydlynu a chyflawni gweithredoedd
  • Cynnal Gweithdai Datblygu Proffesiynol a rhaglenni hyfforddi mewn ymateb i adborth gan y staff
  • Cefnogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, gan gynnwys eu hintegreiddio i rwydweithiau ehangach y Brifysgol
  • Cynnal cyfarfodydd rheolaidd â staff a myfyrwyr i rannu’r datblygiadau diweddaraf a chasglu adborth
  • Lansio digwyddiadau dathlu a gweithgareddau meithrin cymuned yn IBERS
  • Datblygu deunyddiau ymsefydlu i gefnogi staff a myfyrwyr newydd

Ein Hymrwymiad

Ein Hymrwymiad

Rydym wedi ymrwymo i wella ein diwylliant ymchwil yn barhaus trwy:

  • Cryfhau’r cyfathrebu a’r ymddiriedaeth rhwng y staff a’r arweinwyr
  • Sicrhau cyfranogiad cynhwysol ar draws pob grŵp staff
  • Ymgorffori diwylliant ymchwil yn ein strategaeth a'n trefniadau llywodraethu
  • Cefnogi amgylchedd gwaith sy’n gynaliadwy a chadarnhaol

Edrych tua’r Dyfodol

Mae IBERS yn cynnal adolygiad parhaus ar ei gweithgareddau diwylliant ymchwil er mwyn:

  • Pennu blaenoriaethau i’r blynyddoedd a ddêl
  • Datblygu Strategaeth Pobl a Diwylliant i’r dyfodol
  • Sicrhau bod adnoddau a chefnogaeth ar waith i gynnal cynnydd

Cymerwch Ran

Mae’r diwylliant ymchwil yn IBERS yn cael ei ffurfio gan ei gymuned. Anogwn y staff a’r myfyrwyr i gyd i chwarae rhan drwy’r Grwpiau Llais, cyfarfodydd, a gweithgareddau eraill.
Os hoffech ddysgu mwy neu gyfrannu at ein gwaith, cysylltwch â: Jo Walker ar jnw@aber.ac.uk