Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth
Mae tîm hyb cyfnewid gwybodaeth IBERS yn cydweithredu ers tro byd o fewn rhaglen Cyswllt Ffermio a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Byddwn ni’n lledaenu'r mewnwelediadau diweddaraf o ymchwil academaidd sy’n cael ei adolygu gan gymheiriaid, ochr yn ochr â chyflawni dadansoddiadau a chyflwyno adroddiadau ar sail data academaidd cadarn. Mae ein gwaith dadansoddi, dehongli a datblygu prosiectau yn cael ei arwain gan ymchwilwyr doethurol sydd â phrofiad helaeth o gyflwyno ymchwil i'r safonau academaidd uchaf. Mae'r arbenigedd academaidd craidd hwn yn cael ei ategu gan weithwyr proffesiynol arbenigol yn y cyfryngau sy'n datblygu cynnwys e-ddysgu o ansawdd uchel, adnoddau i wefannau, allbynnau i’r cyfryngau cymdeithasol, a deunyddiau ymgysylltu amlgyfrwng — gan sicrhau bod ymchwil yn cael ei throi’n gyfathrebu clir, hygyrch ac effeithiol.
Mae ein hallbynnau i'w gweld yn helaeth ar draws tudalen Newyddion a Digwyddiadau Cyswllt Ffermio lle rydyn ni’n helpu i ddadansoddi data o brosiectau arddangos dan arweiniad ffermwyr ynghyd â thaflenni ffeithiau, adolygiadau o’r llenyddiaeth ac elfennau o lunio erthyglau technegol. Mae’n harchifau o'r rhain i'w gweld isod gydag enghreifftiau ar gael, ond os hoffech ddod o hyd i unrhyw un sydd o ddiddordeb penodol i chi, mae croeso ichi gysylltu â ni.
Er bod capasiti’n tîm yn canolbwyntio'n bennaf ar brosiect Cyswllt Ffermio, os bydd arnoch chi eisiau unrhyw gyngor ffermio pwrpasol neu gymorth technegol ar gynhyrchu allbwn unrhyw bryd, cysylltwch â ni i weld a ydy e'n rhywbeth y gallwn ei hwyluso, a hynny trwy anfon neges ebost aton ni yn Kehubfc@aber.ac.uk















