Hyb Ymchwil Meysydd y Dyfodol

Ysgogi arloesi mewn ffermio trwy ymchwil, technoleg a chydweithredu

Mae amaethyddiaeth ar drothwy oes dechnolegol newydd wrth i systemau ffermio ymateb i bwysau o du'r hinsawdd, prinder gweithwyr a'r angen am offer rheoli sy'n cael eu gyrru gan ddata.

I helpu'r diwydiant i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd arloesol sy'n cael eu cynnig gan dechnolegau fel Deallusrwydd Artiffisial, awtomeiddio a roboteg, mae Prifysgol Aberystwyth wedi sefydlu hyb ymchwil newydd i droi gwybodaeth academaidd yn atebion ymarferol, cost-effeithiol sy'n cefnogi dulliau ffermio craff a chynaliadwy.

Mae Hyb Ymchwil Meysydd y Dyfodol yn adeiladu ar gryfderau'r Brifysgol mewn bridio planhigion, monitro â dronau, rhwydweithiau synhwyro pridd, gwyddorau bywyd, modelu amgylcheddol, roboteg a systemau awtonomaidd.

Cafodd yr hyb newydd yma ei lansio yn 2026, ac mae'n cysylltu arbenigwyr o bob rhan o'r sefydliad, gan gynnwys Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), yr Adran Gyfrifiadureg, yr Adran Gwyddorau Bywyd a'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Gyda'i gilydd, maen nhw'n cyfuno roboteg maes a golwg gyfrifiadurol âgwyliadwriaeth fanwl ar dda byw a pharasitiaid, yn ogystal â rheoli glaswelltir a systemau cnydau, a hynny ar sail ffenoteipio o'r radd flaenaf a synhwyro amlsbectrol ar raddfa sy'n ymestyn o'r llain i'r dirwedd, gan droi ymchwil academaidd yn atebion ymarferol, cost-effeithiol ar gyfer dulliau ffermio craff a chynaliadwy.

Mae nodau Meysydd y Dyfodol yn cynnwys:

  • datblygu offer, technolegau a methodolegau newydd ar gyfer amaethyddiaeth fanwl gywir a mwy o effeithlonrwydd mewn cynhyrchu
  • helpu i fabwysiadu roboteg ac AI yn niwydiannau'r tir
  • darparu data ac atebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ffermwyr, partneriaid yn y diwydiant a gwneuthurwyr polisi
  • creu cyfleoedd ar gyfer ymchwil dan gontract, ymgynghoriaeth a phrofi yn y maes

Mae amcanion yr hyb yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ogystal ag uchelgais Llywodraeth Cymru mewn technoleg amaethyddol: adeiladu gallu cartref, annog ffermydd i fabwysiadu mesurau ar gyfer cynhyrchiant ac enillion amgylcheddol, cyflawni cynnydd mesuradwy tuag at Sero Net, a datblygu sgiliau ar gyfer economi wledig ddigidol.

Gweithio gyda ni

Yn ogystal â phrosiectau ymchwil cydweithredol, mae'r hyb yn cynnig gwasanaethau ymgynghori sy'n cynnwys:

  • arolygon â dronau
  • monitro amgylcheddol
  • dadansoddi data
  • cyfleoedd i dreialu offer a roboteg newydd ar y fferm

Cysylltwch â ni trwy anfon neges ebost at futurefields@aber.ac.uk.