Gwobr fawr Ewropeaidd i BEACON

BEACON

BEACON

31 Mawrth 2014

Dyfarnwyd gwobr fawreddog RegioStars y Comisiwn Ewropeaidd 2014 i Ganolfan Ragoriaeth Bioburo BEACON, partneriaeth ymchwil arloesol o Gymru sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch diwydiannol o blanhigion er mwyn lleihau dibyniaeth ar adnoddau ffosil megis glo a nwy.

Mae BEACON yn bartneriaeth rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe, a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru. Cyflwynwyd y wobr i dîm BEACON mewn seremoni wobrwyo fawreddog ym Mrwsel ar 31Mawrth.

Mae ymchwilwyr yn BEACON yn cydweithio gyda diwydiant, gan gynnwys busnesau bach a chanolig, i ddatblygu deunyddiau adnewyddadwy, tanwydd a chemegau yn ogystal ag addasu a chreu prosesau newydd sy’n gynaliadwy o safbwynt amgylcheddol ac economaidd.

Dan arweiniad yr Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, roedd BEACON yn un o blith 4 o brosiectau i gael eu cynnwys ar y rhestr fer yn y categori “Twf cynaliadwy: twf gwyrdd a swyddi drwy’r Bio-economi”.

Y tri arall oedd Ecoponto em Casa o Bortiwgal, ORGANEXT o Wlad Belg, yr Almaen a’r Iseldiroedd ac ARBOR sydd â phartneriaid o’r DG, Iwerddon, yr Almaen, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd a Gwlad Belg.

Wrth dderbyn y wobr ym Mrwsel gydag Iain Donnison o’r prosiect BEACON, dywedodd Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru: “Dyma enghraifft ardderchog o sut mae prosiectau’r Undeb Ewropeaidd yn dod a budd i Gymru drwy ymchwil blaengar ac arloesedd sy’n helpu i yrru ein heconomi a’n gwneud yn gystadleuol yn fyd-eang. Mae hyn hefyd yn dangos pwysigrwydd aelodaeth UE i Gymru a’r manteision sy’n deillio o Gyllid UE i bobl ledled y rhanbarth.”

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi bod yn trefnu gwobrau Regio Stars ers 2008, gyda’r nod o ganfod arferion da ym maes datblygu rhanbarthol ac amlygu prosiectau gwreiddiol ac arloesol a allai fod yn ddeniadol ac yn ysbrydoliaeth i ranbarthau eraill.

Dewisodd Rheithgor Gwobrau RegioStars 19 o blith 80 o brosiectau a gefnogir gan Gronfeydd Cydlyniant yr Undeb Ewropeaidd, ar sail pedwar maen prawf allweddol: arloesedd, effaith, cynaladwyedd a phartneriaeth.

Roedd y prosiectau hyn yn dod o ranbarthau a dinasoedd o 17 o aelod wladwriaethau: Gwlad Belg, y Weriniaeth Tsiec, Denmarc, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Groeg, Hwngari, yr Eidal, Iwerddon, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Romania, Sbaen, Sweden, a’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae ennill y wobr Ewropeaidd bwysig hon yn deyrnged i waith caled ac ymroddiad tîm BEACON, a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth. Gyda’n partneriaid ym Mangor ac Abertawe rydym yn gweithio gyda diwydiant, ac yn cyfuno ein harbenigeddau gwyddonol a’n technoleg arloesol i wneud cyfraniad sylweddol i ddatblygu’r economi werdd yng Nghymru. Mae’r gwaith hwn yn cynnig sylfaen gadarn inni adeiladu ein Campws Arloesi a Lledaenu newydd arni.”

Meddai Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G Hughes; “Mae’r fenter gwirioneddol gydweithredol hon rhwng y tri sefydliad wedi helpu i feithrin cysylltiadau â chwmnïau lleol ac wedi cynyddu’r arian sy’n cael ei fuddsoddi yng Nghymru. Mae’n galonogol gweld bod y model o weithio gyda chwmnïau i adeiladu gallu yn cael ei gydnabod. Gadewch i ni fynd ati i adeiladu ar hyn yn y dyfodol.”

Dywedodd yr Athro Richard B. Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe; “Mae Beacon yn bartneriaeth arbennig o lwyddiannus oherwydd bod gennym yr arbenigedd o safon byd yr oedd ei angen yn ein prifysgolion yng Nghymru, ac mae Cyllid Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd wedi galluogi’r gwahanol grwpiau i weithio’n effeithiol gyda’i gilydd. Mae hyn wedi creu tîm amlddisgyblaethol uchelgeisiol sy’n medru canolbwyntio ar broblemau mwy heriol, ac sy’n llawn haeddu gwobr RegioStars.”

Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Cyfarwyddwr BEACON; “Rydym yn falch iawn ein bod wedi ennill y Wobr RegioStars. Dyma gydnabyddiaeth ryngwladol o bwysigrwydd y gwaith arloesol sy’n cael ei wneud gan BEACON.

“Mae BEACON yn cael ei yrru gan y targedau heriol ar gyfer mabwysiadu technolegau gwyrdd a gostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr a osodwyd gan lywodraethau cenedlaethol a’r Undeb Ewropeaidd”.

“Mae technolegau sy’n defnyddio llai o garbon, gan gynnwys bioburo a biotechnoleg ddiwydiannol, yn cael eu gweld fel sectorau twf pwysig a bydd angen cadwyni cyflenwi cynaliadwy a fydd yn creu gweithgaredd economaidd a swyddi. Dyma sy’n darparu’r ffocws ar gyfer y gwaith sy’n cael ei wneud yn BEACON.”

Ariennir BEACON drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru, o dan raglen Gydgyfeirio Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Ceir rhagor o wybodaeth am BEACON yma http://beaconwales.org/cy/

Mae’r rhestr lawn o’r cynlluniau buddugol a gwybodaeth bellach am Wobrau RegioStars ar gael yma: http://ec.europa.eu/regional_policy/projects/regiostars/regiostars_en.cfm.

 

AU114