IBERS yn ennill hyfforddiant ymchwil i raddedigion

Myfyriwr ol-raddedig yn IBERS

Myfyriwr ol-raddedig yn IBERS

08 Ionawr 2015

Dyfarnwyd pump Ysgoloriaeth PhD iCASE gwerth £452,000 i Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth gan y BBSRC (Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol) yn y rownd gyllido ddiweddaraf.

Mae Ysgoloriaethau CASE (a elwid gynt yn 'Gwobrau Cydweithredol mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg') yn grantiau hyfforddiant cydweithredol sydd yn cynnig profiad hyfforddiant ymchwil heriol o'r radd flaenaf i fyfyrwyr,  gan ganiatáu i raddedigion o'r ansawdd gorau mewn biowyddoniaeth i wneud gwaith ymchwil - gan arwain at PhD, o fewn cyd-destun cydweithrediad ymchwil rhwng sefydliadau academaidd â phartner, sydd o fudd i'r ddwy ochr .

Mae Ysgloriaethau CASE wedi cael eu dyfarnu i'r prosiectau canlynol yn IBERS:

Dr Kerrie Farrar
Bacteria Endophytic: cyd-fyw a rhyfela cemegol.

Yr Athro Iain Donnison
Gwell datblygiad cyfnod sefydlu a chynnyrch yn y cnwd bio-ynni lluosflwydd Miscanthus.

Dr Maurice Bosch
Ymchwilio i ddichonoldeb aml-drosi cnydau bio-ynni Miscanthus.

Dr Russ Morphew
Pandas a pharasitiaid: Dull genomeg swyddogaethol i frwydro yn erbyn haint Baylisascaris schroederi mewn pandas mawr caeth.

Dr Hazel Davey
Hyfywedd a bywiogrwydd mewn Saccharomyces cerevisiae: modelu ar gyfer rhagfynegi llwyddiant eplesu o fesuriadau cyflym.

Dywedodd yr Athro Paul Shaw, Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwchraddedig yn IBERS; “Mae hyn yn newyddion ardderchog i IBERS gyda chanran uchel o'n ceisiadau yn cael eu cymeradwyo yn y rownd hon. Bydd yn ein galluogi i ddarparu adnoddau i hogi sgiliau ymchwil pump o raddedigion cryf mewn gwyddoniaeth biolegol, gan ddefnyddio cyfleusterau o'r radd flaenaf yn IBERS a gweithio gyda phartneriaid diwydiannol ar draws ystod eang o sectorau masnachol.”

Mae'r BBSRC yn cefnogi hyfforddiant ôl-raddedig i helpu i sicrhau y llif o bobl â chymwysterau uchel i mewn i yrfaoedd o fewn a thu allan i’r byd academaidd, gan geisio cefnogi gwyddonwyr drwy gydol eu gyrfaoedd drwy ystod o weithgareddau.

Ennill cymhwyster ôl-raddedig PhD yw'r cam cyntaf tuag at yrfa mewn ymchwil, ac mae’n darparu hyfforddiant ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd. Mae myfyrwyr BBSRC IBERS wedi mynd ymlaen i weithio yn y byd academaidd, diwydiant, ymchwil y llywodraeth ac ystod o yrfaoedd eraill.

Mae'r BBSRC yn cyllido tua 2000 o fyfyrwyr PhD bob blwyddyn mewn prifysgolion, sefydliadau ymchwil neu bartneriaid diwydiannol, gyda chyfanswm cyllid o tua £ 43.5m y flwyddyn.

IBERS
Mae Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ( IBERS ) yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd yn darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o genynnau a moleciwlau i organebau a'r amgylchedd.

Mae IBERS yn derbyn cyllid ymchwil strategol o £10.5m gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC) i gefnogi ymchwil a yrrir gan genhadaeth tymor hir, ac mae'n aelod o Sefydliad Cenedlaethol y Biowyddorau. Mae IBERS yn elwa hefyd o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru , DEFRA a'r Undeb Ewropeaidd.

AU1015