Modiwl Newydd Surveying Aquatic Environments

Y Cheetah 9.95m:  Un o’n cychod ymchwil newydd

Y Cheetah 9.95m: Un o’n cychod ymchwil newydd

08 Chwefror 2016

Mae ein hisraddedigion bioleg y môr a dŵr croyw yn astudio cyflwr amgylcheddau dyfrol ledled y byd, ac mae llawer ohonynt yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd yn gweithio i reoleiddwyr amgylcheddol, ymgyngoriaethau ecolegol neu gyrff anllywodraethol yn y Deyrnas Unedig a thramor. Er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr hyn mor gystadleuol â phosibl ar gyfer swyddi yn y sector hwn, rydym wedi datblygu modiwl newydd sbon a fydd yn canolbwyntio ar y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio mewn cadwraeth ddyfrol.

Bydd darlithoedd yn y modiwl Surveying Aquatic Environments yn canolbwyntio ar y fframwaith deddfwriaethol sy’n sail i gadwraeth amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop, ac yn archwilio technegau ar gyfer samplu cynefinoedd y dŵr, megis crafanc (grab), treillrwydi, cerbydau rheoli o bell, ac electrobysgota. Bydd y myfyrwyr yn rhoi’r sgiliau hyn ar waith yn ystod wythnos gwaith maes lle gwneir defnydd helaeth o’n dau gwch ymchwil newydd, gan roi profiad ymarferol iddynt o’r technegau a ddefnyddir gan fiolegwyr dyfrol proffesiynol. Nid yn unig y bydd y modiwl yn hwyl ac yn addysgol, ond bydd yn rhoi’r hyder, y sgiliau a’r wybodaeth i fyfyrwyr weithio mewn cadwraeth ddyfrol.