IBERS yn cyhoeddi cyfleoedd PhD newydd ar gyfer 2026 gyda Phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol FoodBioSystems

16 Rhagfyr 2025
Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol FoodBioSystems wedi rhyddhau manylion ar gyfer ei charfan nesaf o ysgoloriaethau PhD pedair blynedd wedi'u hariannu'n llawn, yn dechrau yn hydref 2026. Mae'r alwad eleni yn cynnwys nifer o gyfleoedd ymchwil cyffrous dan arweiniad neu gyd-oruchwyliaeth academyddion yn IBERS, sy'n cwmpasu amaethyddiaeth gynaliadwy, gwyddor planhigion, technolegau manwl, lleihau gwastraff, gwyddor maeth a mwy.
Mae prosiectau FoodBioSystems yn ymdrin â’r gadwyn gwerth bwyd lawn, gyda meysydd ymchwil yn cynnwys: systemau bwyd amgen; ymwrthedd gwrthficrobaidd; iechyd a lles anifeiliaid a ffermir; gwyddor bwyd; iechyd gydol oes; maeth dynol; technolegau clyfar; un iechyd; amaethyddiaeth fanwl; lleihau gwastraff; a systemau amaethyddol cynaliadwy.
Mae cyfanswm o 40 o brosiectau yn cael eu hysbysebu, gydag o leiaf 19 o ysgoloriaethau cyflogedig ar gael. Gall ymgeiswyr wneud cais am hyd at ddau brosiect ar draws unrhyw un o brifysgolion partneriaethol y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol.
Prosiectau Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol FoodBioSystems dan arweiniad IBERS
Pwnc FoodBioSystems | Teitl y Prosiect | Prif Ymchwilydd |
Maeth / Systemau Amaethyddol Cynaliadwy | Dr Aiswarya Girija | |
Systemau Amaethyddol Cynaliadwy / Amaethyddiaeth Manwl a Thechnolegau Clyfar | Flower Power: Petal and pistil adaptations for climate resilience | Dr Maurice Bosch |
Systemau Amaethyddol Cynaliadwy / Amaethyddiaeth Manwl a Thechnolegau Clyfar | Bean_AI for breeding better beans | Yr Athro John Doonan |
Systemau Amaethyddol Cynaliadwy / Deall a Manteisio ar Genomeg | Understanding control of Rubisco degradation in forage ingested by ruminants | Yr Athro Alison Kingston-Smith
|
Prosiectau FoodBioSystems gyda Chyd-oruchwyliaeth IBERS
Amaethyddiaeth fanwl a thechnolegau clyfar / systemau amaethyddol cynaliadwy | Yr Athro John Doonan | |
Lleihau gwastraff | Dr Gordon Allison | |
Systemau Amaethyddol Cynaliadwy / iechyd cnydau | How Plants Prevent Self-Fertilisation: Unlocking Pathways to Better Crops | Dr Maurice Bosch |
Systemau bwyd cynaliadwy / systemau bwyd amgen | SALTERA – Seaweed-derived Alternatives for Low-sodium Taste Enhancement and Reduction Applications | Dr Jessica Adams |
Sut i wneud cais
Mae’r ceisiadau’n agor ar 16 Rhagfyr 2025 drwy'r porth ar-lein:
https://foodbiosystemsdtp.grantplatform.com/
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:Dydd Llun 26 Ionawr 2026 (10:00 GMT)
Gall ymgeiswyr ddod o hyd i ganllawiau manwl, rhestrau o’r prosiectau, gwybodaeth am hyfforddiant ac astudiaethau achos myfyrwyr ar wefan y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol:
https://research.reading.ac.uk/foodbiosystems/apply-for-a-foodbiosystems-phd/for-phd-students-2/
Y cymorth sydd ar gael
Mae'r Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol yn cynnig:
- Cynllun Sicrwydd Cyfweliad
- Cynllun Mentora Ymgeiswyr (dyddiad cau: 9 Ionawr 2026, 10:00 GMT)
Mae'r cynlluniau hyn yn cefnogi myfyrwyr o grwpiau ethnig cymwys (statws ffioedd y DU) sy'n bodloni'r meini prawf academaidd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn PhD sy'n cyfrannu at ddyfodol bwyd mwy gwydn, cynaliadwy a maethlon, dyma’ch cyfle.
