Rhin gwymon yn dangos buddiannau gwrthlidiol ac iechyd y perfedd addawol

Dr Jessica Adams
03 Mawrth 2026
Gallai rhin gwymon gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles, yn ôl gwyddonwyr sy'n ei brofi fel rhan o ymdrechion i wella iechyd y genedl.
Casglwyd y rhin o wymon sy’n cael ei gynaeafu’n gynaliadwy yn y Deyrnas Gyfunol, a gallai gynnig ffordd naturiol o wella afiechydon y perfedd. Ystyrir gwymon gan lawer fel "bwyd daionus", oherwydd ei lefelau uchel o ffibr, asidau amino, fitaminau a mwynau.
Wedi'i gydnabod ers amser hir yn Asia am ei botensial therapiwtig, mae'r rhin gwymon fucoidan bellach yn denu diddordeb cynyddol mewn mannau eraill o’r byd wrth i'r galw gynyddu am gyfansoddion naturiol sydd â manteision iechyd profedig.
Canolbwyntiodd yr astudiaeth 12 mis INNOSea ar gynhyrchu a threialu rhin wedi'i buro o fucoidan, wedi'i farchnata fel Thalivra, a ddangosodd effeithiau addawol ar iechyd treulio a lles cyffredinol.
Awgrymodd y treial clinigol 28 diwrnod cyntaf welliannau yn lles meddyliol oedolion ifanc. Mae'r canlyniadau'n agor y ffordd ar gyfer profion ar raddfa fwy.
Datblygwyd a chyflawnwyd y gwaith gan wyddonwyr yn Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth, ochr yn ochr ag ymchwilwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) a'r cwmni technoleg cynhwysion gwymon BioMara.
Dywedodd Dr Jessica Adams, arbenigwr gwymon o IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Bydd llawer o bobl wedi clywed am fanteision iechyd a dietegol gwymon – mae’r profion hyn yn ychwanegu at y dystiolaeth. O safbwynt prosesu a bioactifedd, mae’r data o’n hastudiaeth yn drawiadol. Mae llwyddo cynhyrchu fucoidan o safon fwyd ar raddfa fawr gyda phroffil gwrthlidiol mor bwerus yn torri tir newydd. Mae’n agor y drws i Thalivra gael ei leoli nid yn unig fel cynhwysyn diogel, ond fel un sydd â photensial swyddogaethol gwirioneddol mewn fformwleiddiadau iechyd y perfedd a chymorth imiwnedd.”
Arweiniwyd y treial dynol gan Dr Amanda J Lloyd a Dr Alina Warren-Walker o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth. Ychwanegodd Dr Lloyd:
“Dyma’r tro cyntaf i rhin gwymon BioMara gael ei brofi ar bobl, ac mae’r canlyniadau’n galonogol iawn. Goddefodd y cyfranogwyr yr atchwanegiad yn hynod o dda, a gwelon ni dueddiadau cynnar mewn lles meddyliol sy’n haeddu astudiaeth bellach. Yn bwysig, mae’r proffil diogelwch cryf a’i hir oes yn rhoi hyder i ni ehangu i grwpiau mwy a gwahanol, ac am gyfnodau prawf hirach.”
Cyllidwyd y prosiect gan Innovate UK a BBSRC fel rhan o fuddsoddiad o £2.5 miliwn mewn 13 o brosiectau i ysgogi dyluniad a datblygiad cynhyrchion bwyd a diod arloesol.
Dywedodd Jay Dignan, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol BioMara:
“Mae cwblhau INNOSea yn nodi trobwynt. Rydym ni wedi profi y gellir cynhyrchu Thalivra ar raddfa fawr, ei fod yn ddiogel i'w ddefnyddio bob dydd, ac yn dangos tueddiadau gwrthlidiol a lles. Mae hyn yn gosod y sylfaen ar gyfer treialon clinigol mwy ac, yn y pen draw, partneriaethau masnachol i ddod â Thalivra i mewn i fformwleiddiadau iechyd y perfedd a chymorth imiwnedd mewn marchnad fyd-eang sy'n tyfu'n gyflym.”
Mae Thalivra fucoidan yn cael ei gynaeafu yn nyfroedd yr Alban a'i brosesu'n bowdr gan ddefnyddio dull unigryw BioMara. Mae wedi'i gymeradwyo i'w ddefnyddio fel bwyd newydd.
