Mapio dyfodol ymchwil amaethyddol y DU

Cnydau porthiant arbrofol yn cael eu tyfu ar dir Gogerddan, Aberystwyth.

Cnydau porthiant arbrofol yn cael eu tyfu ar dir Gogerddan, Aberystwyth.

21 Hydref 2026

Mae ymchwil i fathau gwell o gnydau yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei hamlygu mewn adroddiad newydd fel enghraifft flaenllaw o sut y gall buddsoddiad cyhoeddus hirdymor mewn gwyddor amaethyddol arwain at fanteision ymarferol a helpu i sicrhau dyfodol ffermio.

Adroddiad State of Agricultural Research & Innovation 2026 (SARI)- a luniwyd gan y Ganolfan Effaith Ymchwil Amaethyddol (Ag.Impact) ac a lansiwyd ar 20 Hydref 2026 - yw’r dadansoddiad mwyaf cynhwysfawr erioed o gyllid cyhoeddus ar gyfer ymchwil amaethyddol. Mae’n nodi sut y gall y DU gryfhau proffidioldeb ffermydd, diogelwch bwyd a gwytnwch tra’n paratoi amaethyddiaeth ar gyfer heriau’r degawdau sydd i ddod.

Yn y cyntaf mewn cyfres flynyddol arfaethedig, mae’r adroddiad yn dadansoddi £1.2 biliwn o gyllid cyhoeddus ar gyfer ymchwil amaethyddol rhwng 2022 a 2026 ac yn cymharu buddsoddiad â blaenoriaethau mwy na 600 o bobl a ymatebodd i arolwg, gan gynnwys dros 300 o ffermwyr, ochr yn ochr â chyfweliadau a gweithdai.

Canfu’r adroddiad gonsensws cryf ymhlith ffermwyr, ymchwilwyr a rhanddeiliaid eraill y dylai ymchwil fynd i’r afael â heriau gwirioneddol sy’n wynebu ffermio, darparu cymwysiadau ymarferol a chynnwys ffermwyr a thyfwyr o’r cychwyn cyntaf. I’r rhan fwyaf o’r ffermwyr a ymatebodd i’r arolwg, proffidioldeb ffermio yw’r brif flaenoriaeth.

Mae’r adroddiad yn nodi cyfleoedd i gryfhau’r cysylltiad rhwng buddsoddiad mewn ymchwil a’r anghenion hyn, wrth ddatblygu’r dystiolaeth a’r atebion hirdymor y bydd eu hangen ar amaethyddiaeth wrth iddi wynebu pwysau cynyddol i gynhyrchu bwyd, adfer natur ac addasu i newid hinsawdd a thywydd eithafol.

Dywedodd yr Athro Tom MacMillan, Prif Weithredwr Ag.Impact:

“Mae’n rhaid i ymchwil helpu ffermio i ymateb i bwysau heddiw ac i baratoi ar gyfer heriau’r dyfodol. Mae ffermwyr ac ymchwilwyr yn dweud wrthym eu bod am weld gwaith sy’n ateb cwestiynau go iawn, wedi’i seilio ar yr hyn sy’n digwydd ar ffermydd ac sy’n cynhyrchu tystiolaeth y gallant ei defnyddio.

 Mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun cliriach inni o ble mae cyllid yn cael ei fuddsoddi a sut mae hynny’n cymharu â’r hyn y mae pobl yn dweud sydd ei angen. Ceir sylfeini cadarn i adeiladu arnynt, a gallwn weld lle y gallai newidiadau wneud ymchwil yn fwy buddiol i ffermio, rhagweld anghenion y dyfodol a darparu mwy o werth cyhoeddus.”

Mae’r canfyddiadau’n pwysleisio cryfderau’r DU mewn gwyddoniaeth sylfaenol a’r galluoedd ymchwil gymhwysol sydd gan sefydliadau arbenigol a phrifysgolion amaethyddol. Maen nhw hefyd yn cydnabod bod cyllidwyr a sefydliadau ymchwil eisoes yn datblygu ffyrdd newydd o gynnwys ffermwyr a chynyddu effaith ymchwil.

Mae bridio cnydau porthiant yn Aberystwyth yn cael ei amlygu fel enghraifft o sut y gall ymchwil barhaus helpu i ddiogelu dyfodol amaethyddiaeth. Mae ymchwilwyr a phartneriaid diwydiant wedi gweithio ar ar ddatblygu mathau gwell o laswelltau a chodlysiau ers degawdau, gyda mathau newydd yn cymryd rhwng 15 ac 20 mlynedd i symud o gamau cynnar yr ymchwil at gael eu defnyddio’n fasnachol ar ffermydd.

Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS ac aelod o Grŵp Llywio SARI:

“Mae cynnwys IBERS fel astudiaeth achos yn adlewyrchu pwysigrwydd buddsoddiad hirdymor mewn ymchwil ac arloesi amaethyddol, sy’n hanfodol i ddiogelwch bwyd a chynaliadwyedd amgylcheddol yn y dyfodol. Mae datblygu mathau gwell o gnydau yn broses sydd yn aml yn ymestyn dros ddegawdau, gan ddibynnu ar ragoriaeth wyddonol, buddsoddiad parhaus a phartneriaethau cryf ar draws y sector.

 Yn IBERS, mae ein harbenigedd mewn gwyddor cnydau a bridio planhigion yn ein galluogi i drosi darganfyddiadau o’n gweithgaredd ymchwil yn gymwysiadau masnachol. Mae gweithio’n agos gyda phartneriaid diwydiant megis Germinal, Germinal Horizon a Senova yn helpu i sicrhau bod ymchwil yn darparu manteision pendant i ffermwyr tra’n cyfrannu at gynaliadwyedd, cynhyrchiant a gwytnwch amaethyddiaeth y DU yn y dyfodol.”

Mae rhaglen gyllido ADOPT Defra, a ddarperir gan Innovate UK drwy’r Rhaglen Arloesi Ffermio, yn cael ei hamlygu fel cam mawr ymlaen yn yr adroddiad. Mae’n galluogi grwpiau o ffermwyr i brofi eu syniadau eu hunain ar ffermydd, gyda chefnogaeth ymchwil a rhannu canlyniadau er budd eraill.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn canfod mai dim ond tua 7% o’r cyllid a ddadansoddwyd a aeth at brosiectau rhyngddisgyblaethol a thrawsbynciol. Mae’n nodi cwmpas ar gyfer mwy o gydlynu rhwng cyllidwyr, sefydliadau ymchwil a phedair gwlad y DU, gyda ffermwyr a rhanddeiliaid eraill yn chwarae rhan weithredol wrth lunio blaenoriaethau. 

Mae’r adroddiad yn argymell adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi’i wneud drwy raglenni ymchwil mwy hygyrch sy’n canolbwyntio ar ffermwyr, rhagolygon rheolaidd o heriau sy’n datblygu, a llwybrau cyllido hirdymor dibynadwy. Mae hefyd yn galw am fuddsoddi strategol mewn seilwaith ymchwil, gan gynnwys rhwydweithiau ffermydd, sgiliau a rhannu data, ochr yn ochr â chyfleusterau arbenigol ac arbrofion hirdymor.

 Ychwanegodd yr Athro MacMillan:

“Mae ADOPT yn dangos y gall y sector ymateb i’r her o roi ffermwyr wrth galon ymchwil. Ochr yn ochr â’r gwaith ymarferol hwn, mae angen buddsoddiad parhaus arnom mewn rhaglenni sy’n paratoi ar gyfer y dyfodol, lle bydd y penderfyniadau a wneir heddiw yn llywio’r opsiynau sydd ar gael i ffermwyr ymhen degawdau.

 Mae cydlynu gwell yn helpu sefydliadau i rannu cynlluniau, osgoi dyblygu diangen a gwneud gwell defnydd o’r arbenigedd a’r adnoddau sydd eidos gennym. Rydym am i’r dystiolaeth hon fod yn arf defnyddiol i gyllidwyr wrth iddynt benderfynu beth i’w gefnogi nesaf.

 Mae’r prosiect hwn wedi dod â sefydliadau o bob rhan o’r sector ynghyd. Rydym yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd; aelodau’r grŵp llywio, ymatebwyr yr arolwg, mynychwyr gweithdai, cyfranogwyr mewn cyfweliadau ac eraill a fu’n cynghori’r prosiect, yn adolygu canfyddiadau drafft neu’n rhannu data. Hoffwn hefyd ddiolch i’n cyllidwyr a wnaeth y gwaith hwn yn bosibl; y Cyngor Prifysgolion Amaethyddol, Ymddiriedolaeth Elusennol Elizabeth Creak, yr Innovation Research Caucus a Phrifysgol Reading.”

Bydd Ag.Impact yn diweddaru’r dadansoddiad yn flynyddol ac yn gweithio gyda sefydliadau ymchwil a chyllidwyr i gryfhau effaith a gwerth cyhoeddus

ymchwil amaethyddol. 

Mae’r adroddiad a dangosfwrdd rhyngweithiol ar gael ar wefan SARI: www.ag-impact.org/sari