Cyfarfod Gwyddor Planhigion Cymru i gael ei Gynnal yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ym mis Medi

01 Gorffennaf 2025
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod IBERS yn trefnu Cyfarfod Gwyddor Planhigion Cymru 2025, a gynhelir yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar9-10 Medi 2025. Mae’r digwyddiad yma wedi’i chefnogi gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Bydd y digwyddiad cyffrous hwn yn dod â gwyddonwyr planhigion o bob cwr o Gymru ynghyd i feithrin cysylltiadau, rhannu ymchwil, a thrafod y materion pwysig sy’n llywio dyfodol y maes. Bydd y cyfarfod yn cynnwys:
- Siaradwyr allweddol (i’w cadarnhau) ar themâu fel bioffilia, cadwraeth, cynllunio olyniaeth, ac effaith gymdeithasol
- Sgyrsiau cryno asesiynau posteri, yn canolbwyntio ar fyfyrwyr PhD ac ymchwilwyr gyrfa gynnar
- Grwpiau trafod ar bolisïau, addysg, cyllido, gyrfaoedd, a dyfodol gwyddorau planhigion
- Rhaglen cyn y cyfarfod sy’n cynnwys teithiau o gwmpas y Banc Hadau Cenedlaethol, yr herbariwm, a’r dolydd ar gyfer y rhai a fydd yn cyrraedd y diwrnod blaenorol
Ein nodau yw lleihau gweithio’n dameidiog ar draws cymuned gwyddorau planhigion Cymru, meithrin cydweithio, a chreu amgylchedd cynhwysol ac addas i fyfyrwyr PhD lle gall gwyddorau planhigion sylfaenol a chymhwysol ffynnu.
Hoffem wahodd ymchwilwyr, myfyrwyr, addysgwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn gwyddorau planhigion i ymuno â ni.
Cofrestrwch nawr ar Eventbrite:
https://www.eventbrite.com/e/plant-science-wales-meeting-2025-tickets-1388011964149
Dewch inni weithio gyda’n gilydd i lywio dyfodol gwyddorau planhigion yng Nghymru.