AI a biotechnoleg yn gyrru'r chwyldro nesaf mewn datblygu cnydau gwydn - adroddiad newydd

Y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.
23 Gorffennaf 2025
Mae adolygiad arwyddocaol a gyhoeddwyd heddiw yn y cyfnodolyn o fri Nature yn amlinellu sut y gallai deallusrwydd artiffisial a biotechnoleg drawsnewid cynhyrchiant cnydau yn fyd-eang - gan helpu i greu systemau bwyd mwy gwydn yn wyneb newid yn yr hinsawdd, plâu a thwf yn y boblogaeth.
Mae tîm rhyngwladol o ymchwilwyr - o Tsieina, yr Unol Daleithiau ac Ewrop, gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth - wedi llunio map ffordd ar gyfer integreiddio deallusrwydd artiffisial â golygu genomau, dylunio protein, ffenoteipio ar raddfa fawr a thechnolegau omics sy'n dadansoddi cyfansoddiad genetig a chemegol planhigion.
Maen nhw'n dweud y byddai mabwysiadu'r technegau hyn yn cyflymu'r broses o greu cnydau gwell sy'n fwy cynhyrchiol, cynaliadwy a gwydn o ran yr hinsawdd ac y gallai arwain hyd yn oed at wneud cnydau newydd yn addas ar gyfer defnydd domestig.
Dywedodd yr Athro John Doonan, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Meddyliwch am hyn yn nhermau dylunio ac adeiladu pont. Bellach mae gennym ni’r dulliau i greu cnydau gyda’r un manylder - gan gyfuno mewnwelediadau biolegol ag AI i adeiladu planhigion sy’n gallu gwrthsefyll sychder, afiechyd a mathau eraill o straen."
Mae'r adroddiad yn amlygu sut y gall deallusrwydd artiffisial:
- ragfynegi'r cyfuniadau gorau o enynnau ar gyfer cnwd, maeth a goddefgarwch straen
- ddylunio proteinau newydd i wella amddiffynfeydd a pherfformiad planhigion
- integreiddio setiau data cymhleth iawn i arwain penderfyniadau bridio mwy clyfar a chyflym
Ychwanegodd yr Athro Doonan: “Y nod yw adeiladu gwytnwch yn ein cnydau o’r gwaelod i fyny. Drwy uno AI â biotechnoleg flaengar ac arferion ffermio cynaliadwy, gallwn ni ddiogelu cynhyrchiant bwyd am genedlaethau i ddod.”
Mae’r gwaith yn cyd-fynd â ffocws strategol IBERS ar ddatblygu cnydau gwydn ac fe’i cefnogwyd gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) drwy eu rhaglen Cnydau Gwydn, a chan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) fel rhan o’u cynllun deallusrwydd artiffisial ar gyfer Sero Net.
Cyhoeddir yr adroddiad llawn yn Nature: https://doi.org/10.1038/s41586-025-09122-8.