Myfyrwyr amaeth a ffermwyr ifanc yn yn dangos eu doniau mewn her glaswelltir newydd

Y tîm buddugol oedd Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Frycheiniog (Elis, Cerith ac Elin)

Y tîm buddugol oedd Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Frycheiniog (Elis, Cerith ac Elin)

30 Mehefin 2026

Mae ffermwyr ifanc a myfyrwyr amaeth o golegau addysg bellach wedi bod yn rhoi eu gwybodaeth ar waith fel rhan o Her Glaswelltir a Phorthiant Cynaliadwy a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn Nigwyddiad Tir Glas Sioe Frenhinol Cymru 2026 (12 Mehefin).

Roedd saith tîm o dri yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth ar Fferm Cwmbrynich, Pont Senni, gan weithredu fel ymgynghorwyr i fferm gwartheg sugno a defaid ucheldir.

Gan symud rhwng pum gorsaf asesu gwahanol, roedd gofyn i bob tîm fynd i’r afael â heriau yn ymwneud ag ansawdd pori, cyflenwad porthiant, iechyd pridd, sefydlu gwndwn mewn dull carbon isel a monitro cynaliadwy.

Mewn gornest agos, y tîm buddugol oedd Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Frycheiniog (Elis, Cerith ac Elin), gyda Choleg Y Drenewydd yn ail a thîm arall o Glwb Ffermwyr Ifanc Sir Frycheiniog yn drydydd.

Trefnwyd yr Her Tir Glas a Phorthiant Cynaliwadwy ar y cyd gan Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth a chwmni prosesu cig Pilgrim, mewn partneriaeth gyda’r Digwyddiad Tir Glas a gyda nawdd gan gwmni dillad amaethyddol lleol Sugar Loaf.

Dywedodd Mark Needham, Rheolwr Bwyd-Amaeth a Ffermio yn IBERS:

“Gwnaeth gwybodaeth yr holl dimau a fu’n cystadlu yn yr her ymarferol hon argraff fawr arnon ni, gan ddangos bod ganddyn nhw’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen mewn systemau glaswelltir, porthiant ac ucheldir modern. Cafodd y timau eu cyflwyno hefyd i’r ymchwil glaswelltir diweddaraf sy’n cael ei wneud yn IBERS a mannau eraill, a’n gobaith yw y bydd hyn yn gymorth pellach o ran datblgyu sgiliau amaeth y genhedlaeth nesaf. Llongyfarchiadau i bawb fu’n cystadlu!”

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Pilgrim:

“Roedd Pilgrim’s Europe yn falch o noddi’r gystadleuaeth hon ar gyfer colegau a ffermwyr ifanc, a oedd yn rhan allweddol o weithgareddau’r diwrnod. Roedd safon y cystadlu yn uchel iawn, gan adlewyrchu dawn ac ymroddiad yr holl gyfranogwyr. Llongyfarchiadau mawr i’r holl dimau a gymerodd ran ar y diwrnod.”

Yn ôl Gareth Wynn Davies, Llywydd Digwyddiad Tir Glas Sioe Frenhinol Cymru 2026:

“Pleser oedd gwylio’r timau yma o ffermwyr ifanc a myfywrwyr colegau amaeth o Gymru wrth iddyn nhw fynd i’r afael â chyfres o heriau tir glas. I lwyddo yn y diwydiant heddiw, mae angen i ffermwyr ddeall y technegau a’r technolegau diweddaraf, ac fe ddangosodd yr her hon bod y dyfodol yn ddiogel yn nwylo’r genhedlaeth nesaf.”