IBERS yn ymuno ag un o’r “prif leisiau” i siarad ar y cyd dros sefydliadau ymchwil y DU

Y Gweinidog Gwyddoniaeth, yr Arglwydd Patrick Vallance, yn lansio grŵp y Sefydliadau Ymchwil Cenedlaethol
10 Gorffennaf 2026
Mae Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth wedi cael ei dewis i ymuno ag un o’r prif grwpiau sy'n gwasanaethu fel un llais i fwy na 40 o sefydliadau gwyddoniaeth ac ymchwil yn y DU.
Dyma enghraifft o gydweithio unigryw yn y DU. Mae'r Sefydliadau Ymchwil Cenedlaethol (NRO) yn dod â mwy na 100 o arweinwyr o'r llywodraeth, ymchwil, y byd academaidd, diwydiant a sefydliadau cyllido at ei gilydd, gan nodi pennod newydd ym maes ymchwil y DU.
Mae’r sefydliadau sy’n cymryd rhan yn cynrychioli gallu ymchwil cenedlaethol arbenigol sy'n ymroddedig i hyrwyddo gwyddoniaeth sydd o fudd i bobl, cymunedau, yr economi, yr amgylchedd a gwytnwch cenedlaethol.
Meddai'r Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS, sy'n rhan o Brifysgol Aberystwyth ac a ariennir yn strategol gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol UKRI: "Mae ymchwil yn IBERS yn adeiladu ar sail dros ganrif o fridio planhigion a gwyddor cnydau yn Aberystwyth. Mae ein mathau o gnydau gwydn yn helpu i greu systemau ffermio mwy cynaliadwy, gwella diogelwch bwyd a chefnogi uchelgeisiau i greu amgylchedd carbon isel.
"Rydym yn falch o fod yn rhan o'r NRO ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda phartneriaid ledled y DU i sicrhau bod ymchwil ac arloesi yn rhoi manteision gwirioneddol i bobl, yr economi a chymdeithas."
Sefydlwyd y Grŵp NRO mewn ymateb i gydnabyddiaeth gynyddol y byddai’r maes ymchwil yn y DU yn elwa o gydweddu strategol cryfach, llywodraethu cliriach a rhoi mwy o amlygrwydd i’r arbenigedd a'r galluoedd a ddarperir gan sefydliadau ymchwil cenedlaethol.
Mae ei flaenoriaethau yn cynnwys cyflawni effeithiau mesuradwy yn unol â blaenoriaethau'r Llywodraeth, sicrhau bod ymchwil yn cyd-fynd ag anghenion cenedlaethol, sicrhau buddsoddiad cynaliadwy mewn seilwaith a gallu ymchwil, meithrin arloesedd a sgiliau, a chryfhau arweinyddiaeth wyddonol fyd-eang y DU.
Dywedodd yr Athro Syr Ian Chapman, Prif Weithredwr Ymchwil ac Arloesi y DU: "Mae cyflawni cenhadaeth UKRI i hyrwyddo gwybodaeth, gwella bywydau a sbarduno twf yn gofyn am y galluoedd sylfaenol a ddarperir gan sefydliadau ymchwil cenedlaethol, gan gynnwys ein Canolfannau, Sefydliadau, canolfannau Catapwlt ac Unedau. Edrychaf ymlaen at weithio mewn partneriaeth â grŵp y Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol wrth i ni lunio dyfodol y DU."
Dywedodd y Gweinidog dros Wyddoniaeth, yr Arglwydd Patrick Vallance: "Mae cryfder y DU mewn gwyddoniaeth ac arloesedd yn dibynnu ar gydweithio ar draws ein hecosystem ymchwil. Mae sefydliadau ymchwil cenedlaethol yn chwarae rhan hanfodol wrth gynhyrchu'r wybodaeth, y seilwaith a'r arbenigedd sy'n cefnogi twf economaidd, gwella bywydau a helpu i fynd i'r afael â'r heriau mawr sy'n wynebu'r wlad.
"Rwy'n croesawu lansiad y Grŵp Sefydliadau Ymchwil Cenedlaethol ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'i aelodau i sicrhau bod gwyddoniaeth ac ymchwil yn y DU yn cael cymaint o effaith â phosib."
AU18726
