Anrhydedd am oes o wasanaeth - Eirian Richards yn derbyn Medal Gwasanaeth Hir CAFC

Eirian Richards

Eirian Richards

20 Gorffennaf 2026

Rydyn ni wrth ein bodd yn rhannu'r newyddion bod ein cydweithiwr, Eirian Richards, wedi derbyn Medal Gwasanaeth Hir Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) y prynhawn yma - un o anrhydeddau uchaf ei bri y Gymdeithas sy'n cydnabod unigolion sydd wedi ymroi dros 40 mlynedd o wasanaeth i amaethyddiaeth a'r diwydiannau gwledig yng Nghymru.

Dechreuodd gyrfa Eirian pan adawodd yr ysgol yn 16 oed i ymuno â'r Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (MAFF), gan weithio'n gyntaf ym Mhwlpeiran cyn symud i Drawsgoed.

Yn 1984, parhaodd i weithio yn Nhrawsgoed ond y tro hwn gyda NIAB, gan ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau ymchwil amaethyddol a gwaith maes. Yn ystod ei gyfnod gyda NIAB, teithiodd hefyd i nifer o safleoedd ymchwil lle cafodd gyfle i weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr yn y maes, gan ehangu ei wybodaeth a chaffael profiad gwerthfawr a fyddai o fudd iddo drwy gydol ei yrfa.

Ymunodd Eirian â Phrifysgol Aberystwyth ym 1997, gan dreulio bron i dri degawd yn cefnogi gweithgarwch fferm ac ymchwil ym Mhenglais, Gogerddan, Trawsgoed a ffermydd eraill dan reolaeth y Brifysgol.

Heddiw, mae'n parhau â'i waith gwerthfawr fel Uwch Dechnegydd Maes yng Nghanolfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran, gan ddod รข chyfoeth o brofiad, gwybodaeth ac ymroddiad i bob dim y mae'n ei wneud.

Dros gyfnod o dros bedwar degawd, mae Eirian wedi gwneud cyfraniad eithriadol i ymchwil amaethyddol a datblygiad amaethyddiaeth Cymru. Mae ei ymrwymiad, ei broffesiynoldeb a'i wybodaeth ymarferol wedi ennill parch cydweithwyr ar draws y sector.

Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS:

"Mae'r wobr uchel ei bri hon yn adlewyrchu cysylltiad hir Eirian â Phwllpeiran, Trawsgoed a ffermydd ymchwil eraill Prifysgol Aberystwyth, yn ogystal â'i ymrwymiad hirsefydlog i amaethyddiaeth a thirlun amethyddol Cymru. Mae cyfraniadau Eirian wedi bod yn bwysig i weithgaredd dyddiol y ffermydd arbrofol yn ogystal â’u gwaith hanfodol o gefnogi bywoliaethau gwledig drwy systemau ffermio sy'n seiliedig ar laswelltir. Fel athrofa, hoffen ni estyn ein llongyfarchiadau gwresog iddo yn sgil derbyn y gydnabyddiaeth gwbl haeddiannol hon a diolch iddo am ei holl waith dros y blynyddoedd."

Dywedodd yr Athro Mariecia Fraser, Pennaeth Canolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran:

"Bydd unrhyw un sydd wedi cael y fraint o weithio gydag Eirian yn gwybod ei fod yn rhywun na fyddwch byth yn ei anghofio. Bob amser yn barod gyda stori, gwên neu law i helpu, mae wedi dod yn wyneb cyfarwydd ac yn gydweithiwr gwerthfawr iawn i genedlaethau o gydweithwyr. Mae ei brofiad, ei hiwmor da a'i gariad gwirioneddol at ei waith wedi gadael argraff barhaol ar bawb sydd wedi cael y fraint o weithio ochr yn ochr ag ef. Llongyfarchiadau mawr i ti, Eirian."

Medal Gwasanaeth Hir CAFC

Mae Medal Gwasanaeth Hir Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) yn un o'r anrhydeddau uchaf a ddyfernir gan y Gymdeithas, gan gydnabod oes o ymroddiad eithriadol i'r diwydiant amaethyddol yng Nghymru.

Dyfernir y fedal i unigolion sydd wedi rhoi dros 40 mlynedd o wasanaeth i amaethyddiaeth neu broffesiwn sydd â chysylltiad agos â'r sector. Mae'n dathlu ymrwymiad diysgog, teyrngarwch a chyfraniad rhagorol i'r economi wledig.

Dros y blynyddoedd, mae deiliaid y wobr wedi cynnwys gweithwyr fferm, peirianwyr amaethyddol, arwerthwyr, gweithwyr milfeddygol proffesiynol, coedwigwyr, garddwriaethwyr ac eraill y mae eu gwaith wedi helpu i gynnal a datblygu amaethyddiaeth Cymru dros ddegawdau lawer.

Mae cael eich dewis ar gyfer yr anrhydedd hon yn arwydd o gyflawniad eithriadol, gan adlewyrchu nid yn unig wasanaeth hir ond hefyd y parch a gaiff y deilydd o du eu cyflogwr, eu cydweithwyr a'r gymuned amaethyddol ehangach. Mae'r wobr yn deyrnged barhaol i oes o ymroddiad, proffesiynoldeb a gwasanaeth, gan gydnabod y rhai y mae eu hymrwymiad wedi gwneud cyfraniad sylweddol a pharhaol i lwyddiant a threftadaeth amaethyddiaeth Cymru a bywyd gwledig.