Ehangu Treialon Miscanthus yn Frongoch

Ehangu Treialon Miscanthus yn Frongoch

Ehangu Treialon Miscanthus yn Frongoch

01 Medi 2026

Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r tîm Miscanthus yn IBERS wedi bod wrthi’n paratoi’r gwelyau hadau er mwyn ehangu’r treialon Miscanthus yn Frongoch. Pedair amrywogaeth sydd wedi’u sefydlu, sy’n cyfuno’r math masnachol safonol â deunydd newydd a fridiwyd gan IBERS mewn partneriaeth â Terravesta.

Er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth am ba mor lwyddiannus maent wedi ymsefydlu ac am eu perfformiad cynnar, mae’r cnydau’n cael eu plannu drwy ddefnyddio tri math gwahaol o ddeunydd plannu, sef:

Amrywogaeth

Deunydd plannu

Dull sefydlu

Miscanthus × giganteus

Rhisomau

Y math safonol masnachol; rhisomau a gyflenwyd gan Natural Capital

Astraea

Rhisomau

Sefydlir drwy ddefnyddio deunydd rhisomau

Atropos

Eginblanhigion nodol o doriadau sydd wedi gaeafu

Eginblanhigion o doriadau coesynnau byr a gymerwyd o’r rhiant-blanhigyn

Aphrodite

Planhigion a dyfwyd o hadau

Magwyd o hadau mewn potiau cyn eu sefydlu yn y caeau

Bydd y treialon hyn yn helpu i ddatblygu cnydau biomas gwydn a chynhyrchiol, ac yn cyfrannu at strategaethau planu yn y dyfodol ar gyfer systemau ffermio cynaliadwy.

Gweler y ffotos sy’n dangos y gwahanol ddulliau plannu a ddefnyddiwyd wrth eu sefydlu.

Mae’r eginblanhigion a dyfwyd o hadau ac o doriadau nodol wedi’u gorchuddio â haen amddiffynol o ddeunydd pridd sy’n compostio, yn debyg i’r hyn a ddefnyddir wrth sefydlu planhigion india-corn, er mwyn rhoi hwb i’w tyfiant cynnar a’u helpu i ymsefydlu’n llwyddiannus.