Dr Elaine Jensen

Molecular Geneticist
Manylion Cyswllt
- Ebost: fft@aber.ac.uk
- ORCID: 0000-0003-2827-9819
- Swyddfa: 141, IBERS Gogerddan
- Ffôn: +44 (0) 1970 823136
- Proffil Porth Ymchwil
Proffil
Rwyf i wedi bod yn arwain y prosiect uchod a gyllidwyd gan y BBSRC i uchafu amser blodeuo Miscanthus er mis Medi 2007. Ysbrydolwyd fy mrwdfrydedd dros fioleg planhigion gan faterion amgylcheddol ac awydd i ddeall a chyfrannu at gynaladwyedd mewn amaeth. Roedd prosiect anrhydedd fy ngradd BSc yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng planhigion codlysol a bacteria gwreiddgnepynol, sy'n darparu ffynhonnell gynaliadwy o nitrogen i'r planhigyn, a negyddu'r angen am wrtaith nitrogen. Ar ôl cwblhau fy ngradd BSc mewn Botaneg ym Mhrifysgol Aberystwyth dyfarnwyd Efrydiaeth Ymchwil Uwchraddedig i mi gan y Brifysgol, yn y Sefydliad Ymchwil Tir Glas ac Amgylcheddol (IGER). Yn ystod fy PhD roedd modd i mi ymchwilio i agweddau o'r mecanwaith genetig sy'n tanategu trawsddygiad signalau rhwng y model codlysol Lotus japonicus a'i symbiont rhisobaidd Mesorhizobium loti. Ar ôl cwblhau'r PhD bûm i'n gweithio ar nifer o brosiectau gan gynnwys Willow for Wales llif genynnau mewn india corn (cyllidwyd gan DEFRA) ac ymchwiliad i drwytholchi nitradau o heneiddiad gwreiddgnepynnau.
Gwybodaeth Ychwanegol

Dysgu
Grwpiau Ymchwil
- Gwarchod a rheoli adnoddau naturiol