Defnydd ac Effaith Ganlyniadol

Mae ymchwil yn IBERS yn creu gwybodaeth newydd sy'n ysgogi arloesedd drwy ymchwil gymhwysol, addysg a hyfforddiant er budd cymdeithas, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Gyda'n partneriaid yn y llywodraeth ac ym myd diwydiant, mae gan IBERS ymrwymiad hirdymor i drosglwyddo gwybodaeth i helpu i adeiladu Economi sy'n Seiliedig ar Wybodaeth, gan greu cyflogaeth uchel ei gwerth ym meysydd bwyd-amaeth, ynni, yr amgylchedd ac iechyd dynol ac anifeiliaid, maeth a lles.

Trefnir Defnydd ac Effeithiau ar draws 3 thema eang yn IBERS; Y Bioeconomi, Systemau Amaethyddol ac Allgymorth ac Effaith.