Ym mis Mawrth 2025, gofynnodd y Gwasanaethau Gwybodaeth am adborth ac awgrymiadau gan staff a myfyrwyr ynglŷn â’r wefan SgiliauAber. Diolch i bawb a gynigiodd adborth i’n helpu i wella ein gwasanaethau.
Cefndir: Dwy flynedd yn ôl ail-wampiwyd SgiliauAber yn gyfangwbl. Ers hynny, yr ydym yn cynnal gweithgareddau rheolaidd i gasglu adborth ar werth a pherthnasedd y cynnwys er mwyn sicrhau ei fod yn ateb gofynion ein defnyddwyr.
Adborth: Yn ein Cynhaeaf Awgrymiadau Mawrth 2025, gofynnwyd yn benodol:
- Beth yw eich rôl?
 - Sut ddaethoch i wybod am SgiliauAber?
 - Pa mor aml fyddwch chi'n ymweld â SgiliauAber?
 - Beth ydych chi'n ei hoffi am y safle?
 - Beth gellid ei wella?
 - Rhowch unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ychwanegol
 
Adborth cadarnhaol
- Hygyrch a hawdd i'w ddilyn
 - Mae'n darparu gwybodaeth am lawer o sgiliau gwahanol i gyd mewn un lle.
 - Gallaf gyfeirio fy myfyrwyr yma am wybodaeth ddefnyddiol
 - Hawdd dod o hyd i'r hyn roeddwn i eisiau ac roedd y dolenni'n dda
 - Dolenni amrywiol i wybodaeth ddefnyddiol iawn
 - Rwy'n credu ei fod yn adnodd gwych
 - Hawdd ei gael, addysgiadol, amrywiaeth o fformatau ar gyfer yr wybodaeth
 - Y ffeithluniau a ddefnyddir yw'r ffordd fwyaf cynhwysol a hygyrch o ennyn diddordeb myfyrwyr yng nghysyniadau syniadau.
 
| 
 Materion a godwyd  | 
 Camau Gweithredu’r Gwasanaethau Gwybodaeth  | 
| 
 Mae gan brifysgolion eraill gyngor ar gyfer uwchraddedig, e.e. sut mae cyflwyno papur cynhadledd 
  | 
 Fe fyddwn yn edrych ar pa gynnwys y gallwn ei ychwanegu ar gyfer uwchraddedigion ar gyfer y flwyddyn academaidd 25-26 gan weithio gyda’r Ysgol Raddedigion.  | 
| 
 Byddai rhagor o enghreifftiau o aralleirio derbyniol ac annerbyniol yn ddefnyddiol 
  | 
 Gallwn edrych ar hyn fel rhan o’n arolwg blynyddol ac ystyried os allwn greu cynnwys ar gyfer y flwyddyn academaidd 25-26.  | 
| 
 Mae gormod o destun ac nid yw'n weledol iawn  | 
 Rydym eisoes wedi trosglwyddo llawer o'r cynnwys i ffeithluniau a byddwn yn parhau gyda'r gwaith hwn. Byddwn hefyd yn parhau i ymchwilio i ddulliau eraill o gyfleu gwybodaeth megis fideos a thiwtorialau.  | 
| 
 Symud tuag at rai adnoddau mwy penodol i’r pwnc/adran yn enwedig ar gyfer y gwyddorau. Yn y tab Ysgrifennu ar gyfer aseiniadau, efallai y gellir rhoi ffolderi ar wahân ar gyfer sgiliau ysgrifennu cyffredinol, rhai ar gyfer y dyniaethau a'r gwyddorau. Gallai hyn, efallai, ei gwneud hi'n haws i fyfyrwyr o wahanol gyfadrannau ddod o hyd i’r cymorth gorau.  | 
 Mae hwn yn awgrym gwych a byddwn yn rhoi ystyriaeth i ddarparu mwy o adnoddau i fyfyrwyr gwyddoniaeth. Fodd bynnag, nid ydym yn gallu darparu adnoddau sy’n benodol i bwnc ar hyn o bryd.  | 
| 
 ychwanegu rhywfaint o wybodaeth ar sut i ddefnyddio rhai o'r offer rheoli cyfeirnodi ar-lein mwy diweddar e.e. MyBib a Scribbr. Mae llawer o fyfyrwyr bellach yn defnyddio'r rhain ond o hyd yn gwneud camgymeriadau wrth fformatio eu cyfeirnodau, oherwydd nad ydyn nhw'n meddwl am y gosodiadau.  | 
 Mae hwn yn awgrym defnyddiol iawn ac rydym wrthi’n cynhyrchu canllawiau a ddylai ymddangos yn fuan yn Blog y Llyfrgellwyr.  | 
| 
 Wrth edrych ar rai o'r ffeithluniau sy'n ymwneud ag ysgrifennu traethodau, rwy'n credu bod rhai ohonynt yn cynnwys gormod o destun neu gallent fod yn fwy atyniadol o ran eu cynllun gweledol. Ond mae'r cynnwys ei hun yn dda iawn.  | 
 Falch eich bod wedi mwynhau'r cynnwys. Mae creu cydbwysedd yn anodd wrth ddarparu digon o ddeunydd, gan sicrhau ei fod yn apelio’n weledol a heb ormod o destun. Byddwn yn adolygu ein ffeithluniau dros yr haf.  | 
| 
 Mwy o opsiynau ynghylch sgiliau ysgrifennu traethodau hir a sgiliau ymchwil a dadansoddi ystadegol. Yn enwedig ar gyfer myfyrwyr uwchraddedig.  | 
 Diolch, byddwn yn cynnwys hyn yn ein hadolygiad o Wybodaeth i Uwchraddedigion  | 
| 
 Mwy o adnoddau ar gyfer sgiliau astudio niwrowahanol. 
  | 
 Hoffem ddatblygu'r agwedd hon ar ein darpariaeth a byddwn yn siarad â'n cydweithwyr yn y Gwasanaethau i Fyfyrwyr ynglŷn â darparu adnoddau yn y maes hwn.  | 
| 
 Mae rhywfaint o'r wybodaeth am y Cymorth Sgiliau Iaith yn anghywir.  | 
 Rydym wedi diwygio rhywfaint o'r wybodaeth a'i drafod gyda'n cydweithwyr felly dylai fod yn gywir nawr.  | 
| 
 Mae wedi dyddio o ran golwg a naws. Mae yna lawer o feddalwedd dysgu ar-lein y gellid ei ddefnyddio i'w wneud yn ddeniadol ac yn haws i'w ddefnyddio.  | 
 Rydym yn edrych ar wahanol ffyrdd o gyfleu gwybodaeth a allai fod yn haws i'n myfyrwyr. Byddwn yn parhau i adolygu sut rydym yn cyflwyno gwybodaeth.  | 
| 
 Rwy'n cynnig traethodau fideo byr fel dewis arall/ychwanegiad (i ddeunydd sy’n cynnwys llawer o destun)  | 
 Diolch am yr awgrym hwn. Byddwn yn edrych ar sut y gallwn addasu rhywfaint o'n cynnwys i fformat fideo dros yr Haf.  | 
