Polisi ar gyfer creu Mudiadau Blackboard

Beth yw Mudiad (Organisation)? 

Safleoedd ar Blackboard yw Mudiadau sydd at ddibenion anacademaidd. Yr un yw eu swyddogaeth â chwrs Blackboard a gellir eu defnyddio i roi gwybodaeth, hyfforddiant ar-lein, a mynediad at ddeunyddiau.  

Ni ddylai Mudiadau gael eu defnyddio at ddibenion asesu neu weithgareddau cwrs, oni bai bod y Grŵp Addysg Ddigidol wedi cytuno ar hyn yn benodol.  Ni fydd Mudiadau'n cael eu creu ar gyfer unrhyw fodiwlau sy'n bodoli yn y System Rheoli Modiwlau.  

Mae rhai Mudiadau'n cael eu creu'n awtomatig ond gellir gofyn i’r Grŵp Addysg Ddigidol am Fudiadau newydd.    

Gallwn sefydlu ffrydiau i'ch Mudiad er mwyn gosod staff neu fyfyrwyr arnynt yn awtomatig fel Cyfranogwyr (gweler Opsiynau Cofrestru isod).   

Pwy all wneud cais 

Gall unrhyw aelod o staff ofyn am Fudiad, ond mae'n rhaid iddo gael cytundeb ei bennaeth adran, neu uwch noddwr y prosiect.  

Dylai pob Mudiad gael o leiaf 2 aelod o staff fel arweinwyr yn rhan o'r broses greu. 

Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â'r Grŵp cyn gwneud cais (eddysgu@aber.ac.uk)i drafod eich gofynion.   

Mudiadau Adrannol  

Mae gan bob adran Fudiad ar gyfer staff ac unrhyw fyfyriwr israddedig neu uwchraddedig yn eu hadran.  

Mae'r rhain ar ffurf:  

DEPT-[llythyren adrannol]-UG-O (e.e. DEPT-N-UG) 

Mae'r Mudiadau hyn yn cael eu creu'n awtomatig â’r cyfranogwyr perthnasol yn bwydo i'r Mudiad yn awtomatig. 

Bydd myfyrwyr newydd ac aelodau staff yn bwydo i mewn i’r Mudiad unwaith y byddant wedi actifadu eu cyfrif.   

Os oes angen mynediad o fath gwahanol arnoch i Fudiad, er enghraifft, os oes angen mynediad fel Arweinydd arnoch i Fudiad staff adrannol, cysylltwch â'r Grŵp (eddysgu@aber.ac.uk).  

Cais am Fudiad newydd 

Bydd yr holl geisiadau yn cael eu hystyried gan y Grŵp Addysg Ddigidol gan ddilyn y canllawiau hyn.  Rheolwr y Grŵp (neu’r dirprwy) fydd yn penderfynu’n derfynol ar greu Mudiad newydd.   

Fel arfer, ni fydd ceisiadau am Fudiadau ar gyfer is-setiau o fyfyrwyr neu staff mewn adran yn cael eu cymeradwyo (e.e. holl fyfyrwyr y flwyddyn olaf, pob aelod o staff ymchwil).  Fel arfer, ni fydd ceisiadau am Fudiadau ar gyfer yr un set o fyfyrwyr neu staff â Mudiad sy’n bodoli eisoes yn cael eu cymeradwyo.  

Mae hyn er mwyn lleihau nifer y lleoliadau sydd i ddefnyddwyr edrych arnynt.  Gall y Grŵp gynghori ar sut i reoli’r defnydd o adnoddau trwy Fudiadau adrannol sy’n bodoli eisoes, gan ddefnyddio offer fel Grwpiau.  

Gofynnir i bob cais i Fudiadau ddarparu hyfforddiant neu gynefino gorfodol ar gyfer yr holl staff a/neu fyfyrwyr ystyried a ellir defnyddio Mudiad sydd eisoes yn bodoli.  Mae hyn er mwyn lleihau nifer y safleoedd y mae'n rhaid i staff a myfyrwyr edrych arnynt.  

Fel arfer, ni fydd ceisiadau am Fudiadau Cymraeg a Saesneg ar wahân am yr un wybodaeth neu brosiect yn cael eu cymeradwyo.  Rydym yn cynghori creu Mudiadau dwyieithog fel y gall defnyddwyr newid rhwng ieithoedd yn hawdd.  Mae hyn hefyd yn sicrhau y gellir diweddaru deunyddiau Cymraeg a Saesneg ar yr un pryd.  Gall y Grŵp Addysg Ddigidol gynghori ar ffyrdd o drefnu cynnwys dwyieithog.  

Pa wybodaeth sydd ei hangen 

Wrth wneud cais am Fudiad newydd, rhowch y manylion canlynol os gwelwch yn dda  

  • Enw, e-bost ac adran y sawl sy'n gwneud cais 
  • Enw'r Mudiad (yn ddwyieithog lle bo hynny'n briodol)  
  • Pwrpas y Mudiad 
  • Cofrestriadau ar gyfer y Mudiad (gweler y Dewisiadau Cofrestru isod) 
  • Aelod neu aelodau eraill o'r staff i'w cynnwys fel Arweinwyr ar y Mudiad 
  • Cymeradwyaeth gan y Pennaeth Adran 

Unwaith y bydd cais wedi cyrraedd, bydd y Grŵp Addysg Ddigidol yn ymateb o fewn 3 diwrnod gwaith. Efallai y bydd angen mwy o wybodaeth, ac efallai y byddwn yn gofyn am gyfarfod i drafod y gofynion cyn i'r Mudiad gael ei greu.   

Proses adolygu 

Bydd pob Mudiad yn cael ei adolygu bob haf, a gofynnir i’r arweinwyr gadarnhau bod angen y Mudiad o hyd.  Bydd Mudiadau nad ydynt yn cael eu creu'n awtomatig ac nad ydynt wedi cael defnydd gan gyfranogwyr ers 2 flynedd yn cael eu gwneud yn ddirym.  Bydd y Grŵp yn cysylltu â'r arweinwyr i gadarnhau nad oes ei angen mwyach.  

Rhaid i arweinwyr gysylltu â'r Grŵp os:  

  1. nad oes angen y Mudiad mwyach; 
  1. yw’r arweinwyr yn newid rôl o fewn PA neu'n gadael y brifysgol. 

Opsiynau Cofrestru  

Gellir ychwanegu'r grwpiau canlynol o ddefnyddwyr at Fudiadau.  Os nad yw'r rhestr hon yn cynnwys eich gofynion cofrestru, cysylltwch â'r Grŵp i drafod opsiynau.  Ni allwn warantu y bydd opsiynau cofrestru ar gael y tu hwnt i'r rhestr hon.  Gweler isod am esboniad pellach ynghylch categorïau cardiau a champysau.  

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd defnyddwyr yn cael eu hychwanegu fel cyfranogwyr ar y Mudiad.  

Math o gofrestru   

Pwy sydd wedi'i gynnwys  

Enghraifft  

Rolau Defnyddiwr sydd ar gael  

⁠Adran 

Pob aelod o staff a myfyrwyr mewn un neu fwy o adrannau 

Yr holl staff a myfyrwyr yn yr adran Gwyddorau Bywyd 

Cyfranogwr yn unig 

Cynllun Astudio 

Pob myfyriwr ar bob blwyddyn o gynllun astudio 

Pob myfyriwr ar gynllun N400 

Cyfranogwr yn unig 

Categori campws a chardiau 

Pob defnyddiwr ar gampws penodol gyda chategori cerdyn penodedig  

Pob myfyriwr TAR sy'n astudio ar gampws Aberystwyth 

Holl rolau Blackboard 

Categori cerdyn pob campws 

Pob defnyddiwr categori cerdyn penodedig ar draws pob campws 

Pob Arholwr Allanol  

Cyfranogwr yn unig 

Categori cerdyn a blwyddyn astudio 

Pob myfyriwr sydd â chategori cerdyn penodol yn ôl blwyddyn astudio 

Pob myfyriwr trydedd flwyddyn ar gwrs breiniol 

Cyfranogwr yn unig 

 

Defnyddir Categorïau Cerdyn gan y Gwasanaethau Gwybodaeth i ddarparu gwahanol lefelau mynediad at adnoddau a gwasanaethau.  Mae nifer fawr o gategorïau cerdyn, ond ceir rhai enghreifftiau isod.  Os ydych chi am gofrestru set benodol o ddefnyddwyr ar eich Mudiad, trafodwch eich gofynion gyda'r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu:  

  • Gweithwyr Aber 
  • Myfyrwyr Uwchraddedig a Addysgir 
  • Myfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig 
  • Myfyrwyr Dysgu Gydol Oes 
  • Myfyrwyr TAR 
  • Arholwyr Allanol  
  • Myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau breiniol 

Mae campysau yn berthnasol i ddarpariaeth freiniol – os ydych yn dymuno cofrestru defnyddwyr o ryddfraint ar Fudiad, trafodwch eich gofynion gyda'r Grŵp. 

 

Isafswm Presenoldeb Gofynnol ar gyfer Mudiadau 

Mae pob Mudiad yn wahanol ac yn gwasanaethu dibenion gwahanol. Fodd bynnag, mae rhai eitemau sy'n ofynnol ar gyfer pob Mudiad (nodwch nad yw hyn yn berthnasol i gyrsiau ymarfer staff). Mae'r rhain yn seiliedig ar yr Isafswm Presenoldeb Gofynnol (RMP) ar gyfer cyrsiau Blackboard. 

  • Gwybodaeth ar gyfer Cysylltu. Dylai'r Mudiad gynnwys manylion pwy i gysylltu â nhw os oes gan gyfranogwyr ymholiadau, a phryd y gall cyfranogwyr ddisgwyl ymateb. 
  • Gwybodaeth am bwrpas y Mudiad a sut mae disgwyl i gyfranogwyr ei ddefnyddio 
  • Mae'r cynnwys wedi'i drefnu'n glir, ac mae'r holl ddeunyddiau wedi'u henwi'n glir ac yn gyson. 
  • Mae'r cynnwys yn gyfredol. 
  • Cyfarwyddiadau clir i gyfranogwyr ar beth i'w wneud gyda deunyddiau  

Rhaid i'r holl ddeunyddiau fod mor hygyrch â phosibl. Os na ellir gwneud rhai eitemau yn gwbl hygyrch, esboniwch pam a beth y gall cyfranogwyr ei wneud i ofyn am opsiynau mwy hygyrch. Gweler Canllawiau PA ar Greu Deunyddiau Dysgu Hygyrch am ragor o wybodaeth.