Y Casgliad Celtaidd
Mae’r Casgliad Celtaidd yn dwyn ynghyd ddeunyddiau sy’n ymwneud â Llydaw, Cernyw, Ynys Manaw, Iwerddon, Yr Alban a Chymru, ac yn cynnwys oddeutu 25,000 o lyfrau. Er bod y casgliad yn cynnwys deunyddiau ar bob pwnc sy’n ymwneud â’r gwledydd Celtaidd, hanes a llenyddiaeth yw’r ddwy gyfres fwyaf a geir yn y casgliad. Lleolir y casgliad yn Llyfrgell Hugh Owen ar Lefel F. Mae’r rhagddodiad CELT wedi’i nodi ar feingefn y rhan fwyaf o’r eitemau yn y casgliad, ac eithrio dosbarthiadau DA (Hanes) a PB (Iaith a Llenyddiaeth). Gellir dod o hyd iddynt i gyd drwy Primo.
Dosbarthu a threfnu deunyddiau print
Caiff deunyddiau eu dosbarthu gan ddefnyddio system Ddosbarthu Llyfrgell y Gyngres. Mae’r canlynol yn orolwg cyffredinol o rifau dosbarth y Casgliad Celtaidd:
Dosbarthu a threfnu deunyddiau print
Caiff deunyddiau eu dosbarthu gan ddefnyddio system Ddosbarthu Llyfrgell y Gyngres. Mae’r canlynol yn orolwg cyffredinol o rifau dosbarth y Casgliad Celtaidd:
| B | Crefydd |
|---|---|
| C |
Gwyddorau Cynorthwyol Hanes |
| D | Hanes DA670.C78 – 670 - Cernyw DA700 – 745 - Cymru DA750 – 890 - Yr Alban DA900 – 995 - Iwerddon DC611.B841 – 611.B9173 - Llydaw |
| E | Hanes E184.I6 - Gwyddelod yn Unol Daleithiau America. E184.S3 - Albanwyr yn Unol Daleithiau America E184.W4 - – Cymru yn Unol Daleithiau America |
| F | Hanes F1035 - Celtiaid yng Nghanada F2936 - Cymry yn Y Wladfa |
| G | Daearyddiaeth/ Anthropoleg |
| H | Gwyddorau Cymdeithasol |
| J | Gwyddorau Gwleidyddol |
| K | Cyfraith |
| L | Addysg |
| M | Cerddoriaeth |
| N | Celfyddydau Cain |
| PA | Astudiaethau Clasurol |
| PB |
Ieithoedd Celtiadd a'u Llenyddiaeth |
| Q | Gwyddoniaeth |
| R | Meddygaeth |
| T | Technoleg |
| U-V | Gwyddorau Milwrol a Morwrol |
| Z | Llyfryddiaeth |
