Rhannwch Eich Cariad at Ddarllen ar Ddydd Santes Dwynwen

Yr ydym wedi cael ein hysbrydoli gan hanes Dwynwen, santes cariadon Cymru, ac rydym wedi dewis rhai llyfrau rydym wedi mwynhau eu darllen y byddwch chithau hefyd yn eu mwynhau. Dewch i weld ein harddangosfa llyfr Dydd Santes Dwynwen ar Lefel D o Lyfrgell Hugh Owen ar ddydd Gwener, 25ain Ionawr - mae croeso i chi ychwanegu eich dewisiadau o'r llyfrgell i'r casgliad.

Dydd Santes Dwynwen Hapus!