Cynhadledd BILETA 2026
Rydym yn falch iawn o gadarnhau y bydd Cynhadledd Flynyddol BILETA rhif 41 yn cael ei chynnal gan y Grŵp Ymchwil Technoleg, Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth, rhwng 16-17 Ebrill 2026.
Ymunwch ag ysgolheigion, ymchwilwyr ac ymarferwyr blaenllaw am ddeuddydd o drafodaeth dreiddgar, arloesedd a rhwydweithio ar y mannau lle mae’r gyfraith, technoleg ac addysg yn dod ynghyd.
Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys yr alwad am bapurau a gwybodaeth gofrestru, yn dilyn yn fuan.
Marciwch eich calendrau – edrychwn ymlaen at eich croesawu i arfordir hardd Cymru!