Gwella'ch rhagolygon gyrfaol

Unigolion yn ysgwyd llaw mewn Ffair Yrfaoedd

Ydych chi'n dechrau meddwl am eich gyrfa yn y dyfodol?

Mae datblygu sgiliau a fydd yn eich gwneud yn ddeniadol i gyflogwyr ac yn rhoi dechrau da ichi pan fyddwch chi'n edrych am waith yn golygu ehangu eich sgiliau presennol, creu cysylltiadau, ehangu'ch syniadau, a deall sut i ennill profiadau a'u defnyddio i wella'ch rhagolygon gyrfaol yn y dyfodol.

Lluniwyd ein modiwlau gyda golwg ar anghenion cyflogwyr a phroffesiwn y gyfraith a throseddeg ac rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu'ch sgiliau proffesiynol. Rydym hefyd yn gweithio gyda Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth i sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn derbyn y cyngor y maen nhw ei angen.

Tony Orme yw ein Ymgynghorydd Gyrfaoedd sy'n gofalu am fyfyrwyr Adran y Gyfraith a Throseddeg. Mae'n cyflwyno darlithoedd, gweithdai, digwyddiadau, ymgynghoriadau unigol a sesiynau grŵp rhyngweithiol i sicrhau bod pob myfyriwr yn elwa o addysg, gwybodaeth a chyfarwyddyd gyrfaol.

Mae hefyd yn gyfrifol am bob agwedd ar helpu myfyrwyr, graddedigion a staff sydd â diddordeb mewn menter, hunan-gyflogaeth a chychwyn busnes newydd, i droi eu syniadau da yn fusnesau da.

E-bost: awo@aber.ac.uk
Ffôn: (01970 622378)

Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol megis ymuno â chymdeithasau, gwirfoddoli ac ymgymryd â phrofiad gwaith wrth astudio'n ffordd dda i ddangos i gyflogwyr eich bod yn frwd ac yn fodlon mentro. Rydym yn annog ein holl fyfyrwyr i geisio gwneud y gorau o'u hamser gyda ni. I'ch cynorthwyo yn hyn o beth, rydym wedi casglu gwybodaeth ddefnyddiol ynghyd. Cliciwch ar y tabiau i ganfod mwy.

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli ac ennill profiad gwaith fod yn rhan bwysig o'ch taith yn ystod ac ar ôl astudio. Bydd cael y cyfle i gymhwyso'r hyn a ddysgir yn ystod eich cwrs gradd mewn ffordd ymarferol ac ystyrlon yn siŵr o'ch gwneud yn ymgeisydd cryf a chytbwys wrth ymgeisio am swyddi.

Dyma’r sefydliadau rydym yn cydweithio â nhw'n rheolaidd ac sy’n cynnig cyfleoedd i'n myfyrwyr wirfoddoli. Gweler hefyd wybodaeth ar ein tudalen Facebook lle rydym yn hysbysebu llawer o'r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr cyfredol ac hefyd i'n graddedigion.

Sefydliad

Person cyswllt

E-bost

HomeStart

Avril Gatland

avrilhomestartceredigion@gmail.com

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Tallulah Moonlight

tallulah.moonlight@ceredigion.gov.uk

Heddlu Dyfed-Powys

Adele Jones, Citizen in Policing Co-ordinator

adele.jones@dyfed-powys.pnn.police.uk

Hafal (Aberystwyth)

Ruth Wilson, Service Manager

ruth.wilson@hafal.org

MIND

Tim Bennett, Business Manager

tim@mindaberystwyth.org

Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO)

Ruth Evans, Volunteer Enabler

ruth.evans@cavo.org.uk

Cyngor ar Bopeth Ceredigion

Philip Gibson

philip.gibson@citizenadvice.org.uk /

manager@aberystwyth.cabnet.org.uk

Comisiynydd Heddlu a Throseddu

 

opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk

Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu: Ymwelwyr Annibynnol â'r Ddalfa

 

opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk

Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu: Ymwelwyr Lleyg Er Lles Anifeiliaid

 

opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk

Gwirfoddoli Cymru

 

help@wcva.cymru

Modiwlau ar Leoliad

Yma yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, rydym yn cynnig tri math o leoliad i fyfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau. Rydym yn gwybod mor anodd y gall fod i fagu'r profiad iawn i gael swydd, a gall ein modiwlau ar leoliad eich helpu yn hynny o beth. Mae'r modiwlau hyn, er enghraifft Sgiliau Cyflogadwyedd i bobl proffesiynol a'r lleoliad Trosedd Cyfiawnder, yn gallu eich helpu i fagu'r profiad a'r sgiliau y mae cyflogwyr yn edrych amdanynt tra'n ennill credydau tuag at eich gradd yr un pryd.

Dyma rai manteision eraill o gwblhau modiwlau ar leoliad:

  1. cyfle i roi theori ar waith
  2. gwella eich hunanhyder a syniad o gyfrifoldeb
  3. gwella eich CV drwy ddysgu drwy brofiad
  4. archwilio gwahanol yrfaoedd
  5. eich paratoi chi ar gyfer y gweithle drwy adnabod eich cryfderau a datblygu sgiliau trosglwyddadwy
  6. darparu cyfleoedd i rwydweithio a meithrin cysylltiadau allweddol mewn sefydliadau sefydledig all eich cefnogi yn eich gyrfa yn y dyfodol.

Oherwydd ein cysylltiadau, rydym yn gallu cynnig lleoliadau gyda llawer o sefydliadau adnabyddus. Mae hyn yn gyfle ichi wella eich rhagolygon gyrfaol wrth feithrin sgiliau a phrofiad yn y gweithle sy'n ategu'r wybodaeth a ddysgwyd ar eich cwrs gradd.

Cymdeithasau Myfyrwyr

Cymdeithas y Gyfraith, Prifysgol Aberystwyth

Ceir Cymdeithas y Gyfraith weithredol yn yr adran, sy'n trefnu teithiau i'r llysoedd a ffeiriau cyfraith, arwerthiant gwerslyfrau, nosweithiau cymdeithasol ac uchafbwynt y flwyddyn, sef y ddawns flynyddol.

Cymdeithas Droseddeg Aberystwyth

Mae Cymdeithas Droseddeg yr adran yn gymdeithas arall sy'n rhan bwysig o weithgarwch yr adran, ac mae'n cynnig rhaglen amrywiol gan gynnwys nosweithiau ffilmiau trosedd, ymweliadau â charchardai a sesiynau cefnogi astudio cyn arholiadau.

Cyfnodolyn Cymdeithas Droseddeg Aberystwyth

Mae Cyfnodolyn Cyfraith a Throseddeg Aberystwyth yn fenter gyffrous gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i arddangos gwaith gorau ein myfyrwyr. Mae'n gyfle i gyhoeddi eich ysgrifennu academaidd, yn enwedig os ydych wedi cwblhau darn o ymchwil sylweddol megis traethawd hir. Mae'r Cyfnodolyn hefyd yn coffhau un o gyn fyfyrwyr yr adran, sef Ern Nian Yaw, gan ddyfarnu gwobr flynyddol er cof amdano. Roedd Ern Nian yn fyfyriwr a fu’n allweddol i ddatblygiad y cylchgrwan, ond cafodd ei ladd mewn damwain cyn cyhoddi’r gyfrol gyntaf. Dyfernir y wobr i awdur yr erthygl sydd yn dangos rhinweddau Ern Nian – gallu academaidd arbennig, ymroddiad at waith a manylder. I ganfod mwy, ewch i'r wefan.

Dewisiadau gyrfa

Ymhlith y llwybrau fydd ar agor i chi gyda gradd yn y gyfraith neu droseddeg mae:

  • cyngor i ddinasyddion
  • cyllid
  • Cyllid a Thollau ei Mawrhydi
  • mewnfudo
  • llywodraeth leol
  • gwaith paragyfreithiol
  • ymchwil gwleidyddol
  • rhoi cyngor cyfreithiol (yn gyfreithiwr neu fargyfreithiwr)
  • y gwasanaeth sifil.

Ymhlith y llwybrau fydd ar agor i chi gyda gradd mewn troseddeg mae:

  • Cyllid a Thollau ei Mawrhydi
  • gwaith polisi
  • yr Heddlu
  • y gwasanaeth carchardai
  • y gwasanaeth prawf
  • gwaith ymchwil
  • cefnogi'r ieuenctid.