Galwad am Bapurau
Bydd y Grŵp Ymchwil i Dechnoleg yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth, yn cynnal cynhadledd flynyddol Cymdeithas Cyfraith, Addysg a Thechnoleg Prydain ac Iwerddon (BILETA) ddydd Mercher 15 i ddydd Gwener 17 Ebrill 2026.
Ar noson 15 Ebrill cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a chinio anffurfiol. Cynhelir cinio’r gynhadledd ar noson 16 Ebrill.
Mae Cynhadledd BILETA 2026 yn gwahodd unigolion i gymryd rhan yn ei thrafodaethau beirniadol ar bynciau cyfoes ar ddyfodol y gyfraith, technoleg ac addysg.
Er mwyn adlewyrchu natur ddeublyg y ddisgyblaeth yn ein cyfadran, mae BILETA 2026 hefyd yn croesawu unigolion sydd â diddordeb mewn technoleg ac addysg o safbwyntiau troseddeg a chyfiawnder troseddol.
Bydd thema BILETA 2026 yn ailedrych ar sylw Lange:
"Gwas defnyddiol yw technoleg ond mae’n feistr peryglus”
Mae esblygiad cyflym y technolegau digidol - yn amrywio o ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peiriannau i Blockchain, amgylcheddau ymgolli, a llywodraethu a yrrir gan ddata - yn cynnig cyfleoedd digynsail i’r gymdeithas.
Mae hi’n adeg dyngedfennol: gall yr offer sy'n cael eu datblygu ddemocrateiddio mynediad at gyfiawnder, personoli dysgu, a gwella gweinyddiaeth gyhoeddus. Er hynny, pan fydd yr offer hyn yn gweithredu heb oruchwyliaeth ddigonol, tryloywder, nac aliniad moesegol, mae perygl y byddant yn gwaethygu anghydraddoldeb, gwanhau atebolrwydd, a thanseilio galluedd dynol.
Mae'r gynhadledd eleni yn gwahodd academyddion, ymchwilwyr, ymarferwyr, uwchraddedigion, ymgyrchwyr a phawb sy’n ymddiddori yn y meysydd hyn i bwyso a mesur yn feirniadol y cydbwysedd anodd ei gyflawni rhwng grymuso technolegol a gorthrwm technolegol. Mae croeso i gyfranogwyr o unrhyw wlad fwynhau profiadau ysgolheigaidd, cymdeithasol a diwylliannol BILETA.
Y Broses Gyflwyno
Mae BILETA yn eich gwahodd i gyflwyno crynodeb, hyd at 500 gair, gan ddefnyddio porth Oxford Abstracts erbyn 1 Rhagfyr 2025. Trefnir y gynhadledd o amgylch nifer o sesiynau a gynhelir ar yr un pryd. Mae’r crynodebau’n gallu ymdrin â thema ehangach y gynhadledd a nodir uchod, neu fe allent gyflwyno ymchwil wreiddiol i un neu fwy o'r themâu isod (ymhlith pethau eraill):
- Deallusrwydd Artiffisial a Rheoleiddio
- Y Gyfraith Droseddol a Thechnoleg
- Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn yr Oes Ddigidol
- Diogelu Data, Preifatrwydd a Gwyliadwriaeth
- Llywodraethu Digidol a Rheoleiddio’r Rhyngrwyd
- Datrys Anghydfodau a Mynediad at Gyfiawnder
- E-lywodraeth a Democratiaeth
- E-Fasnachu a'r Economi Llwyfannau
- Materion Cyfreithiol Byd-Eang a Thrawsffiniol
- Hawliau Dynol, Moeseg a’r Gymdeithas
- Eiddo Deallusol a Thechnolegau Newydd
- Addysg Gyfreithiol ac Integreiddio Technolegol
- Effaith Deallusrwydd Artiffisial ar Addysg
- Gwaith a Newid Technolegol
Dyddiadau Pwysig
- Dyddiad Cau Cyflwyno: 1 Rhagfyr 2025
- Hysbysiad Derbyn: 19 Rhagfyr 2025