Gwobrau
Bydd y cynadleddwyr yn cael y cyfle i gystadlu am y gwobrau isod. Cewch gyflwyno’ch cais drwy ebost i bileta2026@aber.ac.uk
Gwobr Addysg Gyfreithiol Paul Maharg
Cynigir gwobr £250 am y darn gorau wedi’i ysgrifennu am addysg gyfreithiol. I gael eich ystyried am y wobr hon, cyflwynwch bapur llawn (hyd at 10-12,000 o eiriau, gan gynnwys troednodiadau) erbyn 28 Chwefror 2026. Cyflwynir y papur buddugol ar gyfer rhifyn arbennig y gynhadledd o European Journal of Law and Technology.
Gwobr BILETA-EJLT
Mae croeso i’r holl gynadleddwyr gynnig am wobr £250 BILETA-EJLT. Cyflwynir y papur buddugol ar gyfer rhifyn arbennig y gynhadledd o European Journal of Law and Technology. Cyflwynwch bapur llawn (hyd at 10-12,000 o eiriau, gan gynnwys troednodiadau) i bileta2026@aber.ac.uk erbyn 28 Chwefror 2026. Bydd sesiwn cyflwyniadau a holi ac ateb am y 3 phapur gorau a gyflwynwyd am y wobr hon ar ddydd Gwener 17 Ebrill. Bydd pob papur yn cael ei gyflwyno gan yr awdur (5 munud), ei drafod gan aelod o Bwyllgor Gwaith BILETA (5 munud), ac wedyn fe wahoddir y gynulleidfa i ofyn cwestiynau (10 munud).
Gwobr Taylor & Francis
Mae croeso i’r holl gynadleddwyr roi cynnig am wobr £250 Taylor & Francis ar ran International Review of Law, Computers and Technology. Cyflwynwch bapur llawn (hyd at 10-12,000 o eiriau, gan gynnwys troednodiadau) i bileta2026@aber.ac.uk erbyn 28 Chwefror 2026.
Gwobr Uwchraddedig Dr Ken Russell
Bydd gwobr £250 ar gael am y papur gorau gan fyfyriwr uwchraddedig.
Y dyddiad cau am bob gwobr yw: 28 Chwefror 2026.
Cyfleoedd Cyhoeddi
Detholir rhai papurau i’w cyhoeddi ar ôl y gynhadledd mewn cyfnodolion a gefnogir gan BILETA.