Clefyd newydd yn bygwth coed derw - chwilio am wirfoddolwyr

21 Mai 2025

Mae perchnogion a rheolwyr coetiroedd yn cael eu gwahodd i helpu i fonitro iechyd y rhywogaeth fwyaf eiconig o goed ym Mhrydain.

Amser tyfu mwy o de cartref?

21 Mai 2025

Gallai rhesi o blanhigion te ddod yn olygfa fwy cyfarwydd ar fryniau Cymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol yn y dyfodol.

Canllaw i wirio pa mor dda rydych chi’n heneiddio

21 Mai 2025

Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Marco Arkesteijn a Dr Alexander Taylor yn trafod nad yw sefyll ar un goes wrth frwsio eich dannedd yn archwiliad llawn o heneiddio, ac yn esbonio pam mae cyflymder cerdded, hyblygrwydd y meddwl a sgôr lles cyffredinol yn bwysicach.

Academyddion o Aberystwyth wedi'u dewis ar gyfer rhaglen fawreddog Crwsibl Cymru

20 Mai 2025

Mae ecolegydd morol, awdurdod ar y theatr a mannau perfformio, a seicolegydd clinigol wedi cael eu dewis i gymryd rhan mewn rhaglen fawreddog i ddatblygu darpar arweinwyr ymchwil Cymru.

Gwyddonwyr o Aberystwyth yn helpu i fonitro beleod

12 Mai 2025

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn helpu i fonitro llwyddiant yr ymdrechion i ailgyflwyno mamal prinnaf ond un Prydain.

Datgelu'r celloedd y tu ôl i glociau biolegol anifeiliaid rhynglanwol 

08 Mai 2025

Mae gwyddonwyr wedi dod o hyd i’r celloedd sydd wrth wraidd y clociau biolegol sy’n cadw amser yn ôl y llanw mewn organebau morol bychain.

eDNA yn datgelu gwybodaeth newydd am fywyd morol prin ar ynysoedd poblogedig mwyaf anghysbell y byd

17 Ebrill 2025

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi cynnal yr asesiad DNA amgylcheddol (eDNA) cyntaf erioed o fertebratau morol yn Tristan da Cunha, grŵp o ynysoedd folcanig yn Ne Cefnfor yr Iwerydd.

Ymchwil newydd yn nodi Dangosyddion Perfformiad Allweddol sy’n dylanwadu fwyaf ar broffidioldeb da byw

25 Mawrth 2025

Mae'n ymchwilwyr wedi nodi set syml ond hynod effeithiol o fetrigau y gellid eu defnyddio i helpu i wella perfformiad ariannol ffermydd da byw.

Plant yn dathlu Wythnos Wyddoniaeth yn Aberystwyth

13 Mawrth 2025

Gwnaeth dros 1,500 o ddisgyblion gymryd ran mewn gweithgareddau ymarferol bywiog yn arddangosfa wyddoniaeth ryngweithiol flynyddol y Brifysgol.