Cyflogadwyedd

Rydym yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu'r wybodaeth wyddonol, profiad ymarferol, a'r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen ar gyflogwyr yn y farchnad swyddi fyd-eang heddiw. 

O geneteg moleciwlaidd clinigol i gadwraethwr morol, milfeddygon, ffermwyr, amgylcheddwyr i flogwyr gwyddoniaeth, mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i fwynhau ystod eang o yrfaoedd llwyddiannus a gwerth chweil. Mae gan ein myfyrwyr enw rhagorol am ddod o hyd i waith ar ôl iddynt raddio. 

Mae rhai o'n graddedigion yn mynd ymlaen i astudio Gradd PhD neu radd Meistr, tra bod llawer o rai eraill yn mwynhau gyrfaoedd llwyddiannus mewn meysydd sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth megis ymchwil a datblygu, cadwraeth, rheoli amgylcheddol, ymchwil feddygol, cyhoeddi gwyddonol, iechyd y cyhoedd, a rheoli bywyd gwyllt, ymhlith llawer o rai eraill. 

Gall gradd gan Adran y Gwyddorau Bywyd fod yn gam tuag at hyfforddiant pellach mewn meysydd proffesiynol gan gynnwys addysgu, meddygaeth, deintyddiaeth, nyrsio a gwyddor filfeddygol. Mae gan ein graddedigion hefyd lawer o sgiliau trosglwyddadwy sy'n ddeniadol i ystod eang o gyflogwyr mewn diwydiannau eraill. 

Blwyddyn integredig mewn diwydiant

Os ydych chi’n dymuno ehangu eich gorwelion a chael blas o’r gweithle neu brofi gyrfa drwy leoliad gwaith, bydd y flwyddyn integredig mewn diwydiant yn cryfhau ac yn gwella eich cyfleoedd gyrfa ar ôl graddio. Mae’r rhan fwyaf o’n cyrsiau anrhydedd sengl ar gael gyda’r opsiwn o gael blwyddyn integredig mewn diwydiant.

Cynhelir y flwyddyn integredig mewn diwydiant yn eich trydedd flwyddyn ac yna byddwch yn dychwelyd i Aberystwyth i gwblhau eich gradd yn y bedwaredd flwyddyn. Caiff y flwyddyn ei hasesu ac mae’n cyfrannu at farc terfynol eich gradd.

Manteision: 

  • Mwy cyflogadwy wrth raddio
  • Mwy tebygol o gael cyflog cychwynnol uwch
  • Mwy tebygol o sicrhau swydd ar lefel gradd.

Mae ein myfyrwyr wedi nodi manteision ychwanegol:

  • Dod i wybod beth hoffech chi ei wneud mewn gwirionedd ar ôl graddio.
  • Profiad gwych – archwilio maes newydd a all fod dramor
  • Gwneud eich blwyddyn olaf yn haws
  • Datblygu eich rhwydweithiau cymdeithasol a phroffesiynol.

Gall ceisiadau a chyfweliadau gymryd llawer o amser a byddwch yn graddio flwyddyn yn hwyrach na’ch ffrindiau yn y brifysgol, ond mae manteision y flwyddyn integredig mewn diwydiant yn bendant yn gorbwyso’r anfanteision.

Pa gymorth sydd ar gael?

  • Ceir cymorth gan aelod academaidd o staff sy’n bennaf gyfrifol am fyfyrwyr y flwyddyn integredig mewn diwydiant ac ymgynghorydd Gyrfaoedd yr adran, yn gweithio law yn llaw gyda’r Gwasanaeth Gyrfaoedd.
  • Yn eich blwyddyn gyntaf cewch arweiniad ar sut i archwilio cyfloedd gyrfa a chryfhau eich cyflogadwyedd.
  • Yn eich ail flwyddyn byddwch yn cael help i chwilio am swyddi, ysgrifennu CV, llythyrau eglurhaol a gwneud ceisiadau. Byddwch yn derbyn ymarfer cyfweliad ffurfiol a chymeradwyaeth swyddogol i’ch lleoliad(au).
  • Yn ystod eich Blwyddyn mewn Diwydiant byddwch yn cael cyswllt a chefnogaeth reolaidd a bydd goruchwyliwr academaidd yn ymweld â chi.

Am wybod beth mae ein graddedigion yn ei wneud nesaf?

Darllenwch broffiliau ein cyn-fyfyrwyr i ddysgu mwy am fod yn fyfyriwr graddedig a’r cyfleoedd gyrfaol y gall gradd  eu rhoi i chi.

Proffiliau myfyrwyr israddedig 

Proffiliau myfyrwyr uwchraddedig

Proffiliau myfyrwyr blwyddyn mewn diwydiant