Newyddion a Digwyddiadau
Arbenigwyr TB buchol yn trafod strategaethau rheoli a dileu
Daeth llunwyr polisi, milfeddygon, ymchwilwyr, ffermwyr a chynrychiolwyr y diwydiant o bob rhan o'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon i Brifysgol Aberystwyth heddiw i drafod strategaethau ar gyfer rheoli a dileu twbercwlosis buchol.
Darllen erthygl
Arbenigwyr TB yn galw am ailwampio'r strategaeth ar gyfer brechu moch daear yng Nghymru
Mae gwyddonwyr yn galw am ymagwedd wedi’i thargedu ac sydd wedi'i harwain gan dystiolaeth ar gyfer brechu moch daear yng Nghymru, gan rybuddio bod bylchau sylweddol mewn gwybodaeth yn cyfyngu ar ei rôl yn y frwydr yn erbyn twbercwlosis buchol.
Darllen erthygl
Ben Lake AS yn gweld gwaith arloesol Prifysgol Aberystwyth wrth frwydro yn erbyn malaria
Mae’r AS dros Geredigion Preseli, Ben Lake, wedi ymweld â Phrifysgol Aberystwyth i ddysgu am eu hymchwil sy'n cyfrannu at y frwydr yn erbyn malaria.
Darllen erthygl
Amrywiaeth buchesi gwartheg traddodiadol yn cael ei heffeithio gan fridio dethol – ymchwil
Mae degawdau o fridio dethol ac arferion amaethyddol dwys wedi ail-lunio geneteg gwartheg - yn aml ar draul amrywiaeth werthfawr a gedwir mewn buchesi traddodiadol - yn ôl ymchwil newydd gan ein gwyddonwyr.
Darllen erthygl
Prosiect cadwraeth newydd yn gwarchod bywyd gwyllt prin mewn perllannau
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn helpu i ddiogelu rhai o rywogaethau prinnaf y wlad a geir mewn perllannau, yn rhan o fenter gadwraeth bwysig.
Darllen erthygl
Ymchwilio i gŵn fferm a’u cysylltiad â lledaeniad clefyd llyngyr sy'n peryglu bywyd
Mae astudiaeth arloesol dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth yn edrych ar sut y gallai’r rhyngweithio dyddiol rhwng pobl a chŵn yng nghefn gwlad Cymru fod yn helpu llyngyr niweidiol i ledaenu rhwng rhywogaethau.
Darllen erthygl
Powdrau protein ‘uwch’ newydd ar gyfer heneiddio gweithredol yn cael eu profi gyda stumog artiffisial
Mae powdrau protein newydd gyda lefel uchel o faetholion i roi hwb i iechyd pobl hŷn actif yn cael eu datblygu gyda chymorth stumog artiffisial ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl
Myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth yn ennill gwobr ffermio fawreddog
Mae myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth wedi cael cydnabyddiaeth ledled Prydain ar ôl ennill y brif wobr mewn cystadleuaeth rheoli busnes amaethyddol.
Darllen erthyglProsiect cydweithredol rhyngwladol i ymdrin â chlefyd dinistriol
Mae prosiect ymchwil rhyngwladol newydd gwerth £9.9 miliwn wedi’i lansio i ddatblygu triniaethau y mae taer angen amdanynt i drin clefyd marwol sy'n effeithio ar filiynau o bobl ledled y byd.
Darllen erthyglPenawdau Eraill
Adeilad Edward Llwyd , Campws Penglais , Prifysgol Aberystwyth , Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DA
Ffôn: +44 (0) 1970 621904 Ebost: ibtstaff@aber.ac.uk