Astudio gyda ni

Mae’r myfyrwyr sy’n astudio yn yr Adran Gwyddorau Bywyd yn cael eu dysgu gan arweinwyr yn eu meysydd, ac mae’r dysgu hwnnw’n arloesol ac yn cael ei arwain gan waith ymchwil. Mae’r myfyrwyr hefyd yn cael defnyddio’r adnoddau sydd o’r radd flaenaf. Mae'r Adran Gwyddorau Bywyd yn canolbwyntio’n gryf ar sgiliau i’r gweithle ac mae wedi ymrwymo i sicrhau bod ein myfyrwyr yn datblygu er mwyn sicrhau llwyddiant yn eu gyrfaoedd yn y tymor hir.