Gallai astudio llid y groth mewn da byw helpu i drin anffrwythlondeb mewn pobl

Llun gan Cowboypo8 o Pixabay
05 Ionawr 2026
Gallai ymchwil i helpu i leihau llid y groth mewn anifeiliaid da byw fraenaru’r tir ar gyfer datblygu cyffuriau newydd i drin anffrwythlondeb mewn menywod, yn ôl adolygiad gwyddonol newydd.
Gan ddefnyddio arfer moesegol gorau, mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn chwilio am ffyrdd newydd o drin endometritis mewn defaid, gwartheg ac anifeiliaid fferm eraill.
Mae endometritis yn achosi llid yn y groth, gan beri anesmwythder i'r anifail yn ogystal ag effeithio ar ffrwythlondeb a chynhyrchiant yn y dyfodol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cydnabyddiaeth gynyddol y gall endometritis hefyd fod yn achos pwysig o anffrwythlondeb mewn menywod.
Gobaith ymchwilwyr yw y bydd yr argymhellion a’r bylchau yn y wybodaeth a nodwyd yn y papur adolygu yn helpu i lywio dealltwriaeth ymhlith staff clinigol sy'n trin menywod â'r cyflwr, yn ogystal ag arwain at ddatblygu cyffuriau effeithiol.
Mae eu canfyddiadau wedi’u cyhoeddi yn y cyfnodolyn gwyddonol a adolygir gan gymheiriaid, Nature Reviews Immunology.
Dywedodd Dr Debbie Nash o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth:
“Mae endometritis yn gyflwr cyffredin mewn da byw sy’n cael ei achosi gan haint yn leinin y groth. Fel arfer caiff gwrthfiotigau eu defnyddio i drin yr haint ond gall y llid barhau, gan effeithio ar ffrwythlondeb. Mae fy ngwaith diweddar wedi canolbwyntio ar ddatblygu cyffuriau newydd yn seiliedig ar blanhigion sy'n trin y llid parhaus mewn anifeiliaid a dwi’n edrych ymlaen at gynnal astudiaethau yn y dyfodol i lunio rhestr fer o gynhyrchion addawol.
“Er mai ar iechyd da byw mae fy mhrif ffocws, mae gwersi ychwanegol i’w dysgu o’r gwaith modelu anifeiliaid yma. Ry’n ni’n gwybod bod endometritis cronig hefyd yn effeithio ar ffrwythlondeb mewn pobl. Trwy rannu’r hyn ry’n ni wedi’i ddysgu a chymhwyso’n gwybodaeth yn fwy eang, ein gobaith yw y gall ein hymchwil hefyd helpu i roi hwb i’r gwaith o chwilio am therapïau newydd ar gyfer menywod sy’n dioddef o endometritis, yn enwedig y camau cynnar o ddarganfod cyffuriau.
"Mae ein harferion ymchwil i gyd yn foesegol gadarn ac ymarferol. Dydyn ni ddim yn defnyddio meinwe na chelloedd anifeiliaid byw yn ein modelu ond yn hytrach yn cael deunydd o ladd-dai a fyddai fel arall yn cael ei daflu yn ystod y broses cynhyrchu cig. Fel rhan o’r adolygiad, tynnwyd sylw at bwysigrwydd safonau moesegol da wrth greu modelau anifeiliaid o lid y groth yn y labordy."
Ar hyn o bryd mae Dr Nash yn gweithio gyda dau gwmni o Gymru i ddatblygu cynhyrchion posibl ar gyfer trin endometritis.
Mae adolygiad o’r ymchwil gan Dr Nash a Joanna L Giles o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth wedi’i gyhoeddi’n llawn yn Nature Reviews Immunology (2025): https://doi.org/10.1038/s41577-025-01200-2