Camerâu gwisgadwy a Deallusrwydd Artiffisial yn datgelu arferion bwyta

04 Chwefror 2026

Ni all unrhyw un offeryn fesur dietau pobl yn gywir, ond mae ymchwil newydd yn dangos y gallai cyfuno gwahanol ddulliau – o gamerâu gwisgadwy i ddadansoddi biofarcwyr dietegol – gynnig y darlun mwyaf dibynadwy o'r hyn y mae pobl yn ei fwyta.

Mewn adolygiad a gyhoeddwyd yn 'Nature Food', mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr yn tynnu sylw at broblemau hirsefydlog sy’n gysylltiedig â defnyddio dulliau hunan-adrodd traddodiadol, sy'n aml yn dibynnu ar gofio a dyfalu ac sy’n gosod baich amser sylweddol ar gyfranogwyr.

Mae'r cyfyngiadau hyn yn ei gwneud hi'n anodd i ymchwilwyr a llunwyr polisi gysylltu diet â chanlyniadau iechyd mewn modd dibynadwy, ac i ddeall sut mae dietau yn newid mewn ymateb i heriau cynaliadwyedd byd-eang.

Mae'r adolygiad yn dwyn ynghyd y dystiolaeth ddiweddaraf o feysydd gwyddor maeth, metabolomeg, ymchwil i ficrobïomau, golwg gyfrifiadurol a thechnolegau synwyryddion.

Dywedodd Dr Thomas Wilson, o Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, a chyd-awdur yr arolwg:

"Mae cofnodi gwybodaeth fanwl-gywir am yr hyn y mae pobl yn ei fwyta a'i yfed yn un o'r heriau mwyaf ym maes ymchwil maeth. Mae dulliau traddodiadol yn dibynnu'n helaeth ar hunan-adrodd, ac rydym yn gwybod nad yw hynny’n rhoi gwybodaeth fanwl-gywir. Trwy integreiddio offer modern – fel biofarcwyr biolegol a dulliau adrodd wedi’u cynorthwyo â thechnoleg ddigidol – gallwn wella cywirdeb yn sylweddol a lleihau'r baich ar gyfranogwyr ar yr un pryd. Mae hyn yn agor y drws i ymchwil mwy dibynadwy o lawer ac mae’n ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r rhan y mae deiet yn ei chwarae mewn iechyd hirdymor."

Mae'r papur yn tynnu sylw at ddatblygiadau technolegol newydd, o gamerâu gwisgadwy sy'n cofnodi prydau bwyd mewn amser real, adnabod bwydydd ac amcangyfrif maint dognau gyda chymorth deallusrwydd artiffisial, i apiau ffôn clyfar sy'n promptio defnyddwyr er mwyn lleihau camgymeriadau sy'n gysylltiedig â'r cof.

Mae'r awduron hefyd yn pwysleisio bod biofarcwyr cymeriant bwyd (BFIs) yn ddatblygiad addawol ym maes asesu dietegol.  Mae Biofarcwyr Cymeriant Bwyd yn canfod cemegau mewn wrin, gwaed neu garthion, sy'n cyfateb i fwydydd neu batrymau dietegol penodol, gan gynnig gwybodaeth wrthrychol o'r hyn y mae pobl wedi'i fwyta.

Mae'r awduron yn pwysleisio na all unrhyw un dechnoleg ddatrys yr holl heriau sy’n gysylltiedig ag asesu dietegol. Yn hytrach, maent yn cynnig fframwaith integredig, hyblyg y gellir ei deilwra i wahanol gyd-destunau ymchwil - o ymyriadau dietegol wedi’u rheoli i astudiaethau o’r boblogaeth ar raddfa fawr.

Mae'r awduron yn dadlau y bydd offer asesu dietegol o’r fath yn hanfodol o ran datblygu maeth manwl, gwella argymhellion dietegol, a chefnogi polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer iechyd pobl a’r blaned.

Ychwanegodd Dr Wilson:

"Wrth i ni wynebu heriau byd-eang – o’r cynnydd mewn clefydau sy'n gysylltiedig â diet i'r angen am ddietau mwy cynaliadwy – mae cael darlun cliriach o'r hyn y mae pobl yn ei fwyta mewn gwirionedd yn hanfodol. Mae'r technolegau newydd hyn bellach yn cynnig cyfle gwirioneddol i ni adeiladu'r genhedlaeth nesaf o ddulliau asesu dietegol ac, yn y pen draw, cefnogi bywydau a systemau bwyd iachach."

Arweiniwyd yr ymchwil ryngwladol gan wyddonwyr o Brifysgol Copenhagen, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Feddygol Graz, y Sefydliad Bioleg Systemau yn Seattle, a Phrifysgol ac Ymchwil Wageningen.

AU2526