Powdrau protein ‘uwch’ newydd ar gyfer heneiddio gweithredol yn cael eu profi gyda stumog artiffisial

Dr Pilar Martinez Martin
27 Gorffennaf 2026
Mae powdrau protein newydd gyda lefel uchel o faetholion i roi hwb i iechyd pobl hŷn actif yn cael eu datblygu gyda chymorth stumog artiffisial ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae ymchwilwyr yn ceisio creu powdrau gyda lefel uchel o brotein sy’n cynnig dewis naturiol yn lle diodydd protein artiffisial, gyda’r nod o fynd i’r afael â diffyg maeth ymhlith pobl hŷn a chefnogi heneiddio iachach.
Bydd y diodydd newydd yn cynnwys cymysgedd o fitaminau a mwynau ac yn seiliedig ar blanhigion, cynnyrch llaeth, neu gyfuniad hybrid, ynghyd â chynhwysion sy’n helpu i gynnal y cyhyrau, iechyd gwybyddol, a lles cyffredinol.
Wedi’u cynllunio i fod yn gyfarwydd i’r defnyddwyr, bydd y powdrau’n cael eu datblygu mewn blasau coffi a choco.
Amcangyfrifir bod tua un ym mhob 10 person dros 65 oed naill ai’n dioddef o ddiffyg maeth neu mewn perygl o ddiffyg maeth - dros filiwn o bobl hŷn yn y DU.
Mewn partneriaeth ag Ymchwil Tetrin, cwmni ymchwil a datblygu o Gymru, mae ymchwilwyr o Adran y Gwyddorau Bywyd yn arwain ar ymchwil ar sefydlogrwydd a threuliadwyedd y powdrau, ynghyd â faint o’r protein y gall y corff ei amsugno.
Dr Thomas Wilson sy’n arwain Uned Asesu Ansawdd Protein y Brifysgol, sy’n defnyddio offer labordy sy’n efelychu system dreulio bodau dynol ac yn dadansoddi sut mae maetholion yn cael eu rhyddhau a’u hamsugno pan gânt eu bwyta. Dywedodd:
“Rydym yn defnyddio system bio-adweithydd i efelychu swyddogaeth yr organau sy’n gysylltiedig â phroses dreulio bodau dynol. Mae’n efelychu’r hylifau treulio a’r amodau a geir wrth i fwyd symud trwy’r corff, gan gynnwys rheolaeth fanwl gywir ar dymheredd a pH. Gan ddefnyddio cyfres o bympiau, rydym yn cyflwyno hylifau gastrig a choluddol i siambrau dilyniannol, gan efelychu gwahanol gamau system dreulio bodau dynol. Drwy ddadansoddi’r deunydd a ddaw o’r bio-adweithydd – sef bwyd a diod wedi’i dreulio – gallwn fesur sut mae proteinau’n cael eu torri i lawr a’u hamsugno drwy gydol y broses dreulio.”
Dywedodd y prif ymchwilydd, Dr Pilar Martinez Martin, arbenigwr ym maes gwyddorau planhigion a chnydau ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae’r prosiect hwn yn dod â gwyddoniaeth, cynaliadwyedd, ac apêl synhwyraidd ynghyd. Ein nod yw creu cynnyrch sydd nid yn unig yn blasu’n dda ond sydd hefyd wir yn darparu manteision o ran iechyd. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl hŷn sy’n aml yn cael trafferth diwallu eu hanghenion maethol. Trwy ddefnyddio gwyddoniaeth arloesol ym maes maeth, rydym yn sicrhau bod pob diferyn o’r ddiod yn cefnogi iechyd hirdymor mewn ffordd naturiol a chynaliadwy.”
Bydd y powdrau protein yn cynnwys amrywiaeth o gynhwysion bioactif megis hadau cywarch, madarch pigau barfog, a choco. Bydd ffynonellau protein yn cynnwys opsiynau anifeiliaid a phlanhigion, gan gynnwys maidd, casein, a phrotein hadau cywarch.
Ychwanegodd Mari Arthur, Cyfarwyddwr Ymchwil Tetrim:
“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut y gall arloesi bwyd fynd i’r afael â heriau iechyd go iawn. Nid dim ond datblygu cynnyrch rydym yn ei wneud — rydym yn ailfeddwl sut y gellir darparu maeth mewn ffordd sy’n hygyrch, yn bleserus ac yn effeithiol. Drwy gyfuno ffynonellau protein amrywiol â chyfansoddion bioactif pwerus, rydym yn cefnogi popeth o atgyweirio cyhyrau i weithrediad gwybyddol mewn un fformat cyfleus.”
Mae’r prosiect yn blaenoriaethu cynaliadwyedd, gan gyrchu cynhwysion allweddol fel madarch pigau barfog a chywarch gan gynhyrchwyr o Gymru, gan gefnogi amaethyddiaeth leol a moesegol a sicrhau’r ansawdd gorau.
Mae’r prosiect Datblygu Diodydd Maethlon i Hybu Heneiddio Gweithredol (FANBI) yn cael ei ariannu gan raglen Launchpad Innovate UK, sy’n rhan o UKRI – Ymchwil ac Arloesi’r DU.