Prosiect cadwraeth newydd yn gwarchod bywyd gwyllt prin mewn perllannau

Noble Chafer - source iNaturalist

Noble Chafer - source iNaturalist

06 Awst 2026

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn helpu i ddiogelu rhai o rywogaethau prinnaf y wlad a geir mewn perllannau, yn rhan o fenter gadwraeth bwysig. 

Bydd y prosiect yn para tair blynedd ac yn canolbwyntio ar bedair rhywogaeth sydd dan fygythiad – y chwilen nobl (Gnorimus nobilis), y chwilen glec ysgarlad gorngoch (Ampedus rufipennis), y ffwng deintgrwst melyn (Sarcodontia crocea), a gwyfyn tortrics cleisiog yr uchelwydd (Celypha woodiana).   

Nod y prosiect yw meithrin y wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i adnabod a monitro'r rhywogaethau hyn, yn ogystal â helpu tirfeddianwyr i adfer a chreu cynefinoedd perllan gwerthfawr lle y gall y rhywogaethau ffynnu. 

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cydweithio ag Ymddiriedolaethau Natur Swydd Gaerwrangon, Swydd Gaerloyw a Swydd Henffordd, ac Ymddiriedolaeth y Bobl dros Rywogaethau mewn Perygl. 

Bydd arbenigwyr ecoleg foleciwlaidd o Adran Gwyddorau Bywyd y Brifysgol yn defnyddio technegau arloesol, gan gynnwys fferomonau a DNA, i wella’r modd y mae poblogaethau y chwilen nobl a’r chwilen glec ysgarlad gorngoch yn cael eu monitro.  

Bydd y gwaith yn helpu i ddarparu darlun cliriach o ddosbarthiad a statws y pryfed prin hyn, gan alluogi cadwraethwyr i dargedu’r ymdrechion adfer yn fwy effeithiol. 

Dywedodd Dr Niall McKeown o Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth: 

"Mae'r prosiect hwn yn gyfle cyffrous i gael dealltwriaeth newydd sydd ei mawr angen ynghylch bioamrywiaeth hen bren mewn perllannau. Defnyddiwn ddulliau genetig i ddeall ecoleg y rhywogaethau hyn a sut maent yn rhyngweithio â'u cynefinoedd yn y berllan. Wedyn defnyddiwn y wybodaeth i sicrhau y gallwn warchod y rhywogaethau hyn mewn modd priodol. 

"Gall arolygon traddodiadol fod yn heriol yn achos rhywogaethau y mae’n anodd dod o hyd iddynt neu a geir mewn poblogaethau bach iawn. Felly, yn ogystal â chynhyrchu gwybodaeth ecolegol, datblygwn offer i ganfod ac olrhain y rhywogaethau, gan ddarparu gwybodaeth hanfodol ar gyfer eu cadwraeth yn yr hirdymor. 

"Rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio â chydweithwyr o'r Ymddiriedolaethau Natur ac o Ymddiriedolaeth y Bobl dros Rywogaethau mewn Perygl ar brosiect a fydd o fudd i'r rhywogaethau hyn sydd dan fygythiad, ond a fydd hefyd yn helpu i adfer cynefinoedd perllannau traddodiadol yn fwy cyffredinol." 

Dywedodd Steve Bloomfield, Pennaeth Cadwraeth Ymddiriedolaeth Natur Swydd Gaerwrangon 

"Mae un o bob chwe rhywogaeth yn y DU mewn perygl o gael eu ddifodi. Gan fod y byd naturiol yn sylfaen i bopeth, o aer a dŵr glân i gynhyrchu bwyd, mae angen i ni darparu pob cyfle posib iddo adennill ei dir. Dyma gyfle gwych i wneud hynny. 

"Dros y blynyddoedd nesaf, yn ogystal â cydweithio â thirfeddianwyr a’u helpu i wneud pethau gwych dros fywyd gwyllt, byddwn hefyd yn gwneud ymchwil gyffrous iawn i ddysgu mwy am y rhywogaethau prin hyn sydd yn anodd dod o hyd iddynt." 

Mae perllannau traddodiadol ymhlith y cynefinoedd mwyaf gwerthfawr yn y DU - ond maent hefyd un o’r rhai dan y bygythiad mwyaf - sy’n cynnal amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt. Disgwylir i'r gwaith cadwraeth a wneir drwy'r prosiect fod o fudd i ystod eang o rywogaethau yn ogystal â'r pedair sydd yn brif dargedau’r gwaith. 

Mae'r prosiect yn un o 130 o fentrau cadwraeth sy'n derbyn cefnogaeth gan raglen y llywodraeth 'Wild Again: Restoring England’s Wildlife' sy'n buddsoddi £60 miliwn er mwyn adfer 364 o rywogaethau sydd dan fygythiad. 

Ariennir y fenter gan Raglen Adfer Rhywogaethau Natural England.

 

AU18626