Deiet ac Iechyd

 

Cyflwyniad

Deiet ac Iechyd

Mae llawer o’r problemau iechyd y mae cymdeithas heddiw yn eu hwynebu yn gysylltiedig â’r cynnydd mewn cyflyrau meddygol cronig. Mae IBERS mewn lle unigryw yn y DU oherwydd ei gallu i gysylltu bridio planhigion/anifeiliaid a ffenoteipio deunyddiau crai bwyd yn gemegol ag astudiaethau ar effaith deiet ac ymarfer corff ar iechyd a deiet.

Trwy weithio gydag anifeiliaid a phobl, datblygwyd cydweithio allanol gyda chanolfannau rhagoriaeth clinigol a milfeddygol i ymelwa ar dechnoleg metabolomeg, genomeg a biowybodeg er mwyn mynd i’r afael â phynciau allweddol ymchwil maetheg. Rydym hefyd yn ymchwilio i’r berthynas rhwng deiet ac ymarfer corff yn ystod y broses heneiddio ac wrth reoli cyflyrau meddygol cronig a’r modd y gellir gwireddu cyngor am ffordd o fyw ymhlith pobl sy’n byw yn rhydd, gan ganolbwyntio’n benodol ar ardaloedd gwledig. Er mwyn hwyluso gweithgarwch ymchwil, sefydlwyd yr Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd (WARU) i feithrin cysylltiadau â’r gymuned leol a darparu cyfleusterau i gwrdd ag aelodau’r cyhoedd a’u galluogi i gyfrannu at, ac ennyn eu diddordeb mewn gweithgareddau ymchwil.

Nod

Nod

Gwella iechyd a lles pobl trwy ymchwil, addysg ac ymgysylltu trwy:

  • Ddarganfod ffyrdd dilys a dibynadwy o fesur ein deiet arferol
  • Adnabod y prif ffactorau deietegol ac ymarfer corff sy’n gysylltiedig ag iechyd ac yn rhagfynegi anafiadau a chlefydau
  • Adnabod ffactorau sy’n dylanwadu ar y niferoedd sy’n newid eu deiet a faint o ymarfer corff maen nhw’n ei wneud, ac yn cadw ato
  • Sefydlu patrymau ymarfer corff optimaidd er lles ffisiolegol

Cyfleusterau

Cyfleusterau

  • Labordy Ffisioleg Iechyd a Pherfformiad– Mae amrywiaeth eang o offer ar gyfer monitro ymatebion i ymarfer corff yn y labordai ffisioleg. Mae’r rhain yn cynnwys melinau traed perfformiad uchel, ergomedrau beicio sy’n arafu’n electrofagnetig, ergomedrau rhwyfo, sbiromedrau, systemau dadansoddi nwy ar-lein gyda pheiriant ECG 12-lid, amrywiaeth o gyfleusterau anthropometrig yn cynnwys sganiwr DXA a siambr amgylcheddol.   
  • Labordy Dadansoddi Symudiad Iechyd a Pherfformiad – dynamometr isocinetig Biodex, system gamera 3D Motion Analysis Corporation gydag 8 camera, dau lwyfan mesur grym AMTI symudol, system EMG ddi-wifr a system harnais uwchben, gyda thrac rhedeg integrol.
  • Labordy Metabolomeg Cydraniad Uchel– Canolbwyntir ar adnabod a mesur metabolynnau o ystod eang o fatricsau biolegol. Canolbwyntiodd un gweithgarwch craidd hirdymor ar ddatblygu strategaeth o fiofarcwyr yn adnabod deiet trwy ddefnyddio wrin dynol
  • Genoteipio a Dilyniannodi’r genhedlaeth nesaf– Mae IBERS wedi buddsoddi’n sylweddol yn ddiweddar mewn isadeiledd genoteipio a dilyniannodi’r genhedlaeth nesaf (NGS), a wnaeth arwain at sefydlu cyfleusterau Genomeg Drawsfudol newydd ar gampws Gogerddan.

Prosiectau

Prosiectau

Monitro ac asesu’r gallu i weithredu a statws eiddilwch ymhlith oedolion hŷn (FACET)

Yn canolbwyntio ar atal eiddilwch trwy fonitro a gwella iechyd oedolion hŷn. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth am eiddilwch ymhlith unigolion a gweithwyr proffesiynol a hyrwyddo yr hyn y gall pobl ei wneud i atal eiddilwch.

Monitro Lles ac Iechyd yn y Cartref (MWH @ Home)

Yn asesu effeithiolrwydd y defnydd o dechnoleg ddigidol ‘glyfar’ wrth helpu unigolion i fonitro a gwella eu maeth, cyfansoddiad eu cyrff a’u lles cyffredinol.

Cyn-Diabetes

Mewn cydweithrediad â meddygfeydd lleol, rydym yn archwilio ‘Siwrne’r Claf’ ar ôl iddo dderbyn diagnosis o’r cyflwr cyn-diabetes, a rôl ymyrraeth addysgiadol gryno trwy ofal cychwynnol.  

Bwydydd y Dyfodol

https://www.futurefoods.wales/

Nod y rhaglen gyffrous hon yw darparu arbenigedd ymchwil a datblygu o’r radd flaenaf mewn gwyddor bwyd, technoleg a maeth, i fusnesau bwyd a diod uchelgeisiol yng Nghymru sy’n ceisio datblygu cynhyrchion iach, sy’n creu marchnadoedd newydd.   

Campws ArloesiAber

https://aberinnovation.com/ 

Sefydlwyd tîm o ymchwilwyr medrus a datblygu set unigryw o uwch-fedrusrwydd ym maes Ymchwil a Datblygu i gefnogi arloesi yn y sector Bwyd a Diod yng Nghymru.

Yn Iach i fy Mabi

Ymyrraeth â ffordd o fyw cyn beichiogi, gan dargedu menywod dros bwysau a’u partneriaid, gyda’r nod o leihau’r cymhlethdodau yn ystod y beichiogrwydd, atal clefydau cardio-fetabolig, ac atal gordewdra yn ystod plentyndod. Bydd deiet trwy ddulliau hunangofnodedig a biofarcwyr wrinol yn ogystal â ffordd o fyw a mesurau anthropometrig yn cael eu gwerthuso.

Adsefydlu ar ôl strôc

https://stroke.aber.ac.uk

Prosiect rhyngddisgyblaethol sy’n defnyddio dulliau cyfrifiadureg, niwrowyddoniaeth, bioleg, therapi ymarfer clinigol a seicoleg, ac yn cydweithio â’r GIG, Llywodraeth Cymru, cymunedau lleol, a’n partneriaid mewn diwydiant a’r byd academaidd er mwyn astudio sut mae strôc yn effeithio ar symudedd a chynllunio ymyrraethau sy’n helpu pobl i wella.

Effeithiau tymor byr a thymor hir bwyta cig ar fetabolaeth pobl o dras Indiaidd

Defnyddio adnoddau’r grwpiau cyfredol i ddarganfod effeithiau cardio-fetabolig deietau cig ar fetabolaeth pobl o dras Indiaidd er mwyn llunio canllawiau deietegol, a pholisïau amaethyddol ac amgylcheddol, yn India.

 

Prif Ymchwilwyr

Prif Ymchwilwyr

Llun Enw Ebost Ffôn
Dr Manfred Beckmann meb@aber.ac.uk +44 (0) 1970 622340
Prof John Draper jhd@aber.ac.uk +44 (0) 1970 622789
Dr Rhys Thatcher ryt@aber.ac.uk +44 (0) 1970 628630
Dr Federico Villagra Povina fev1@aber.ac.uk +44 (0) 1970 622108
Dr Joanne Wallace jyw@aber.ac.uk +44 (0) 1970 628681

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

Beckmann, M, Wilson, T, Zubair, H, Lloyd, AJ, Lyons, L, Phillips, H, Tailliart, K, Gregory, N, Thatcher, R, Garcia-Perez, I, Frost, G, Mathers, JM & Draper, J 2020, 'A Standardized Strategy for Simultaneous Quantification of Urine Metabolites to Validate Development of a Biomarker Panel Allowing Comprehensive Assessment of Dietary Exposure', Molecular Nutrition and Food Research, vol. 64, no. 20, 2000517. 10.1002/mnfr.202000517
Beckmann, M, Lloyd, AJ, Wilson, T, Torres, DPM, Goios, ACL, Willis, ND, Lyons, L, Phillips, H, Mathers, JC, Nash, RJ, Sharp, H & Draper, J 2020, 'Calystegines are Potential Urine Biomarkers for Dietary Exposure to Potato Products', Molecular Nutrition and Food Research, vol. 64, no. 20, 2000515. 10.1002/mnfr.202000515
Willis, ND, Lloyd, A, Xie, L, Stiegler, M, Tailliart, K, Garcia-Perez, I, Chambers, E, Beckmann, M, Draper, J & Mathers, JC 2020, 'Design and Characterisation of a Randomized Food Intervention That Mimics Exposure to a Typical UK Diet to Provide Urine Samples for Identification and Validation of Metabolite Biomarkers of Food Intake', Frontiers in Nutrition, vol. 7, 561010. 10.3389/fnut.2020.561010
Maruvada, P, Lampe, JW, Wishart, DS, Barupal, D, Chester, DN, Dodd, D, Djoumbou-Feunang, Y, Dorrestein, PC, Dragsted, LO, Draper, J, Duffy, LC, Dwyer, JT, Emenaker, NJ, Fiehn, O, Gerszten, RE, Hu, FB, Karp, RW, Klurfeld, DM, Laughlin, MR, Little, AR, Lynch, CJ, Moore, SC, Nicastro, HL, O'Brien, DM, Ordovás, JM, Osganian, SK, Playdon, M, Prentice, R, Raftery, D, Reisdorph, N, Roche, HM, Ross, SA, Sang, S, Scalbert, A, Srinivas, PR & Zeisel, SH 2020, 'Perspective: Dietary Biomarkers of Intake and Exposure - Exploration with Omics Approaches', Advances in Nutrition, vol. 11, no. 2, nmz075, pp. 200-215. 10.1093/advances/nmz075
Lloyd, AJ, Willis, ND, Wilson, T, Zubair, H, Chambers, E, Garcia-Perez, I, Xie, L, Tailliart, K, Beckmann, M, Mathers, JC & Draper, J 2019, 'Addressing the pitfalls when designing intervention studies to discover and validate biomarkers of habitual dietary intake', Metabolomics, vol. 15, no. 5, 72. 10.1007/s11306-019-1532-3
Lloyd, A, Willis, ND, Wilson, T, Zubair, H, Xie, L, Chambers, ES, Garcia-Perez, I, Tailliart, K, Beckmann, M, Mathers, JC & Draper, J 2019, 'Developing a food exposure and urine sampling strategy for dietary exposure biomarker validation in free-living individuals', Molecular Nutrition and Food Research, vol. 63, no. 14, 1900062. 10.1002/mnfr.201900062
Wilson, T, Garcia-Perez, I, Posma, JM, Lloyd, A, Chambers, ES, Tailliart, K, Zubair, H, Beckmann, M, Mathers, JC, Holmes, E, Frost, G & Draper, J 2019, 'Spot and Cumulative Urine Samples Are Suitable Replacements for 24-Hour Urine Collections for Objective Measures of Dietary Exposure in Adults Using Metabolite Biomarkers', Journal of Nutrition, vol. 149, no. 10, nxz138, pp. 1692-1700. 10.1093/jn/nxz138
March, DS, Jones, AW, Thatcher, R & Davison, G 2019, 'The effect of bovine colostrum supplementation on intestinal injury and circulating intestinal bacterial DNA following exercise in the heat', European Journal of Nutrition, vol. 58, no. 4, pp. 1441-1451. 10.1007/s00394-018-1670-9
Jones, AW, March, DS, Thatcher, R, Diment, B, Walsh, N & Davison, G 2019, 'The effects of bovine colostrum supplementation on in vivo immunity following prolonged exercise: A randomised controlled trial', European Journal of Nutrition, vol. 58, no. 1, pp. 335-344. 10.1007/s00394-017-1597-6
Curtis, F, Thatcher, R, Rice, S & Davison, G 2017, 'A 15-week vitamin D supplementation and indoor cycling intervention reduces exercising heart rate, with no effect on glycaemic control in healthy adults: A pilot investigation', International Journal of Exercise Science, vol. 10, no. 2, pp. 274-283.

Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil »