Uned Ymchil Asesu Lles ac Iechyd

 

Mannau Awyr Agored

A yw cyfyngiadau COVID-10 yn effeithio ar yr hyn a wnewch allan yn yr awyr agored ac ar eich gweithgaredd corfforol?

Ar hyn o bryd (Ebril 2021) mae pandemig Coronafeirws (COVID-19) yn effeithio ar fywyd bob dydd llawer ohonom, ac yn enwedig ar yr amser a dreulir yn yr awyr agored. Mae cyfyngiadau COVID-19 yn effeithio ar bawb, ac nid ar y rhai sy'n dal yr haint yn unig.

Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar agwedd pobl yng Nghymru tuag at fod allan yn yr awyr agored, yn ystod cyfyngiadau symud y gaeaf.  ​

Drwy gynnal arolwg ar-lein*, rydym yn awyddus i wybod ydy mannau awyra gored (gwyrdd) ar gael yn rhwydd i bobl yng Nghymru, a sut mae hynny'n gysylltiedig â gweithgaredd corfforol a lles. Bydd yr arolwg yn cymryd tua 30-40 munud i'w gwblhau.

Hoffem ddiolch i unrhyw un sy'n penderfynu cymryd rhan. Byddwch yn cyfrannu at ymchwil sy'n anelu i ganfod sut mae'r pandemig yn effeithio ar bobl. Rydym yn awyddus i ganfod a ddylid rhoi mwy o flaenoriaeth i sicrhau bod mannau gwyrdd a natur ar gael i bawb yng Nghymru yn y dyfodol er mwyn hyrwyddo lles a gweithgaredd corfforol. ​

Caiff gwybodaeth lawn am y prosiect a'ch rhan chi yn y prosiect eu disgrifio yn y llyfryn gwybodaeth i gyfranogwyr. Os ydych chi'n diddori, cewch gwblhau'r arolwg ar-lein. ​​

 Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth a manylion.

Mae'r dogfennau gwybodaeth ar gael isod, ac fe'u diweddarwyd yn fwyaf diweddar ar 28-1-2021.

* Mae fersiwn galed ar gael drwy anfon cais i waru@aber.ac.uk ​