Dr Rhys Jones
Darlithydd Gwyddor Da Byw a’r Amgylchedd (Cyfrwng Cymraeg)
Manylion Cyswllt
- Ebost: raj22@aber.ac.uk
- Swyddfa:2.08 Adeilad Edward Llwyd
- Ffôn: +44 (0) 1970 622266
- Proffil Porth Ymchwil (https://research.aber.ac.uk/en/persons/4db47966-3dd9-49e9-bc45-01fdf9f50a84)
Graddiais o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd BSc (1af) Amaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid (2013) a gradd MSc (Rhagoriaeth) Gwyddor Da-byw (2014). Yn 2017, cyflwynais draethawd PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, ar y testun ‘Epidemioleg Llyngyr y Rwmen (Calicophoron daubneyi) ar ffermydd Cymru’. Yn ystod y PhD, defnyddiais dechnegau molecwlar a modelu cyfrifiadurol i ymchwilio epidemioleg llyngyr y rwmen o fewn da-byw a’i falwen letyol. Cefais fy mhenodi yn ddarlithydd Gwyddor Da-byw a’r Amgylchedd (Cyfrwng Cymraeg) ym Mhrifysgol Aberystwyth ym Medi 2017.
Rwy’n wreiddiol o ogledd Cymru, lle gefais fy magu ar fferm ucheldir bîff a defaid. Rwyf yn dal â diddordeb yn y fferm deuluol yn ogystal â materion amaethyddol cyffredinol. Diddordebau eraill sydd gennyf yw pêl-droed a rygbi.
Arweinydd grŵp addysgu cyfrwng Cymraeg DLS
Cydlynydd cynllun FDSc Amaethyddiaeth
Aelod o Fwrdd Rhaglen Cyswllt Ffermio
Mae fy niddordeb ymchwil o fewn y maes parasitoleg milfeddygol. Yn benodol, rwyf â diddordeb mewn datblygu technegau cynaliadwy i reoli parasitiaid ar ffermydd. Ar y funud mae fy ymchwil yn ffocysu ar lyngyr yr iau, llyngyr y rwmen, malwod lletyol ganolradd megis Galba truncatula ac ar nematodau gastroberfeddol sy'n heintio defaid a gwartheg. Yn ddiweddar rwyf wedi defnyddio technegau dadansoddiad DNA amgylcheddol (eDNA), dilyniannu amplicon dwfn, modelu gofodol, dulliau parasitoleg traddodiadol, a thechnoleg da byw manwl gywir i fodloni nodau ymchwil.
In: Veterinary Record, Vol. 198, No. 3, 31.01.2026.
Research output: Contribution to journal › Article › peer-review
In: Applied Animal Behaviour Science, Vol. 302, 107053, 30.09.2026.
Research output: Contribution to journal › Article › peer-review
In: Frontiers in Veterinary Science, Vol. 13, 1807455, 14.04.2026.
Research output: Contribution to journal › Article › peer-review
In: International Journal for Parasitology, Vol. 56, No. 6, 104751, 01.06.2026.
Research output: Contribution to journal › Article › peer-review
In: Animal, Vol. 18, No. 6, 101156, 30.06.2024.
Research output: Contribution to journal › Article › peer-review
