Argraffu Torri Leinio
Gellir astudio 'Argraffu Torri Leinio' fel cwrs annibynnol ac mae'n gwrs dewisol ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Celf a Dylunio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Ffeithiau Allweddol
Iaith: Cymraeg
Hyd: 10 Wythnos
Nifer y Credydau: 10
Tiwtor: Elin Crowley
Dull Dysgu: Wyneb i wyneb
Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC
Cod y Modiwl: YD11210
Ffi: Am Ddim - Cynllun Hepgor Ffioedd (gweler yr amodau isod).
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.
Diolch i gefnogaeth ariannol gan Medr trwy'r Cynllun Hepgor Ffioedd, caiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim. Cyn y gellir archebu eich lle ar y cwrs, rhaid i chi gwblhau cais Hepgor Ffioedd ac anfon prawf o'ch cyfeiriad yng Nghymru atom.
Oherwydd natur y cwrs, nifer cyfyngedig sydd ar gael felly y cyntaf i’r felin fydd hi!
Amlinell
Mae'r cwrs cyfrwng Cymraeg hwn yn cynnig taith gynhwysfawr o ddull argraffu torri leino ac yn annog dysgwyr i ddatblygu technegau traddodiadol ac arbrofol. Yn ystod y cwrs hwn, a fydd yn cael ei gyflwyno gan artist a gwneuthurwr printiau profiadol, bydd dysgwyr yn astudio ac yn datblygu technegau argraffu torri leino. Trwy waith unigol a gwaith grŵp, caiff ddysgwyr gyflwyniad i wahanol dechnegau a sgiliau megis lliw, tôn a chymysgu yn ogystal â chyfle i ddatblygu syniadau ar themâu a syniadau penodol sy'n gysylltiedig â'r pwnc. Bydd yr holl waith a grëir yn cael ei gynllunio o amgylch llun gwreiddiol o ffotograffau, llyfrau neu fywyd llonydd. Bydd dysgwyr yn cael eu hannog i arbrofi a gwthio'r ffiniau wrth ddysgu'r gwahanol dechnegau, gan ennill yr hyder a'r wybodaeth i barhau â'r prosesau yn y dyfodol.
Rhaglen y Cwrs
Yn ystod y cwrs, bydd y dysgwr yn astudio'r canlynol:
- Dull argraffu torri leino
- Dull incio ‘relief’
- Cyflwyniad i dermau celfyddol a chyfryngau • Cyflwyniad i wahanol dechnegau a sgiliau megis lliw, tôn a chymysgu;
- Astudiaethau o artistiaid a’u gwaith
- Gwaith grŵp i ddatblygu syniadau ar themâu a syniadau penodol sy'n gysylltiedig â'r pwnc.
- Dogfennu gweithgareddau, dulliau a deunyddiau
Canlyniadau Dysgu
- Trafod a chyflwyno eu syniadau creadigol gyda lluniadau i gefnogi gwaith pellach.
- Paratoi'r ardal waith a’r defnydd o offer cywir ac addas.
- Paratoi platiau ac argraffu print lino amlliw.
- Ymgyfarwyddo â'r offer, yr inciau a'r toddyddion cywir ar gyfer glanhau.
Asesiadau
- Portffolio (2000 o eiriau) o ddulliau printio a'r delweddau a wnaed yn y dosbarth a thrwy astudiaethau hunangyfeiriedig. (100%)
Gofynion Mynediad
Mae hwn yn gwrs i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
