Cynllun Hepgor Ffioedd
Os ydych yn byw yng Nghymru efallai y byddwch yn gymwys i gael eich ffioedd wedi'u hepgor o dan gynllun Hepgor Ffioedd Israddedig Rhan Amser Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Gyda chyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) mae'r Brifysgol yn cynnig cynllun hepgor ffioedd i gefnogi myfyrwyr na fyddai ganddynt fynediad at addysg uwch fel arall (yn amodol ar argaeledd). Bydd CCAUC yn talu ffioedd myfyrwyr cymwys.
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hepgor ffioedd mae’n rhaid ichi fodloni’r canlynol:
- Mae’n rhaid ichi beidio ag astudio mwy na 20 credyd yn ystod y flwyddyn academaidd hon
- Rhaid bod yn byw yng Nghymru
Yn ogystal, mae rhaid ichi fodloni o leiaf un o'r meini prawf canlynol:
- Rydych yn dod o ardal o amddifadedd economaidd-gymdeithasol neu o gyfranogiad isel mewn addysg uwch
- Rydych yn derbyn budd-daliadau sy’n eich gwneud yn gymwys fel Universal Credit
- Rydych yn perthyn i grŵp Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig
- Rydych chi'n ffoadur;
- Rydych yn geisiwr lloches
- Mae gennych chi anabledd
- Rydych yn ofalwr
- Rydych wedi Gadael Gofal neu wedi cael Profiad o Ofal
- Rydych chi'n ystyried eich hun yn LDHTC+
- Rydych yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am fwy o wybodaeth darllenwch ein Canllawiau Cynllun Hepgor Ffioedd
Cofiwch fod y cynllun hepgor ffioedd dysgu i fyfyrwyr yn amodol ar argaeledd.
Ymgeisiwch ar gyfer ein Cynllun Hepgor Ffioedd
Gall y broses hepgor ffioedd gymryd hyd at fis i'w chwblhau. Rhowch ddigon o amser i chi'ch hun cyn dechrau'r cwrs.
Nodwch: Bydd yn rhaid ymgeiswyr llwyddiannus dalu'r ffi cyflawn os ydynt yn cofrestru ar gwrs ond yn methu â mynychu, neu gwblhau aseiniadau cwrs.