
Proffil
Mae Ceri wedi ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ynghyd â’r Goron, ac ef yw’r Meuryn, sef cyflwynydd a beirniad cyfres Y Talwrn ar BBC Radio Cymru. Bu’n Fardd Plant Cymru ac mae wedi cyhoeddi cyfrolau o gerddi i blant ac oedolion. Wedi graddio mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Aberystwyth, dilynodd yrfa fel athro Saesneg ac wedyn fel golygydd llyfrau, ond mae bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun fel awdur, darlledwr, golygydd a thiwtor ysgrifennu creadigol. Bu’n dysgu eraill i gynganeddu ers dros ddeng mlynedd ar hugain, gan basio ymlaen y grefft a ddysgodd gan ei athro barddol yntau, sef T. Llew Jones.
Dysgu
Cyrsiau a gynhelir gan Ceri yn cynnwys:-
Y Prifardd Ceri Wyn Jones
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Dysgu Gydol Oes, Ail Lawr, Adeilad Cledwyn, Campws Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DD
Ffôn: 01970 621580 Ebost: dysgu@aber.ac.uk
Dysgu Gydol Oes, Ail Lawr, Adeilad Cledwyn, Campws Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DD
Ffôn: 01970 621580 Ebost: dysgu@aber.ac.uk