Pwyllgor Myfyrwyr a Staff
Mae'r Pwyllgor Myfyrwyr a Staff yn darparu sianel gyfathrebu ffurfiol rhwng myfyrwyr a Dysgu Gydol Oes.
Mae'r Pwyllgor Myfyrwyr a Staff yn darparu fforwm pwysig i staff a myfyrwyr drafod unrhyw broblemau a materion a allai godi. Er nad oes gan y Pwyllgor bwerau ffurfiol i lunio polisïau, mae ei rôl gynghori yn cael ei chymryd o ddifrif ac anogir cyfranogiad yr holl fyfyrwyr yn gadarnhaol. Mae gan y Pwyllgor rôl gymdeithasol hefyd a gall gymryd camau i gynnig a threfnu digwyddiadau cymdeithasol.
Pwrpas y Pwyllgor Myfyrwyr a Staff yw trafod cynnwys, trefniadaeth a rhaglenni pynciau academaidd, materion amserlennu, adnoddau, cyfathrebu, ac ystyried materion a godwyd gan fyfyrwyr sy'n ymwneud â phob agwedd ar brofiadau'r myfyrwyr.
Os oes gennych bwynt i'w wneud a'ch bod am i'ch llais gael ei glywed, cysylltwch ag un o'ch Cynrychiolwyr Academaidd. Mae siarad â'ch cynrychiolydd myfyrwyr yn ffordd o gael eich clywed ac o sianelu math mwy personol o adborth.
Cynrychiolwyr Academaidd
|
Michael Amphlett |
Celf a Dylunio |
|
|
Lee Jones |
Celf a Dylunio |
|
|
Doryn Herbst |
Ysgrifennu Creadigol |
|
|
Roger Boyle |
Ysgrifennu Creadigol |
|
|
Bob Jacques |
Ecoleg |
|
|
Nicole Lee |
Ieithoedd Modern |
|
| Ceridwen Pruitt | Ieithoedd Modern | cep23@aber.ac.uk |
| Jordan Marie Wilsey | Ieithoedd Modern | jmw33@aber.ac.uk |
| Sam Messenger | Ieithoedd Modern | sam207@aber.ac.uk |
| Teresa Allen | Datblygiad Professiynol | tea19@aber.ac.uk |
I gael rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Myfyrwyr a Staff Dysgu Gydol Oes, anfonwch e-bost at Antonio Barriga Rubio
