Gwagio Epynt

 

Gellir astudio Gwagio Epynt fel cwrs annibynnol ac mae'n gwrs dewisol ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Astudiaethau Hel Achau ym Mhrifysgol Aberystwyth.  

Ffeithiau Allweddol

 

Iaith: Cymraeg

Hyd: 10 Wythnos 

Nifer y Credydau: 10

Tiwtor: Euros Lewis

Dull Dysgu: 

Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC

Cod y Modiwl: YD10810

Ffi: £140.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.

Diolch i gefnogaeth ariannol gan Medr trwy'r Cynllun Hepgor Ffioedd, caiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim. Cyn y gellir archebu eich lle ar y cwrs, rhaid i chi gwblhau cais Hepgor Ffioedd ac anfon prawf o'ch cyfeiriad yng Nghymru atom.

Oherwydd natur y cwrs, nifer cyfyngedig sydd ar gael felly y cyntaf i’r felin fydd hi!

 

Amlinell 

Gwagiwyd Mynydd Epynt yn ystod blwyddyn gyntaf yr Ail Ryfel Byd. Mi fydd y cwrs hwn yn archwilio cyd-destun daearyddol y mynydd a’i berthynas â hanes Cymru o gyfnod y Celtiaid cynnar hyd diddymu cymdogaeth Epynt ddiwedd mis Mehefin, 1940. Mi fydd yn edrych yn fanwl ar natur y gymdogaeth honno gan geisio adnabod cyd berthynas yr holl elfennau amgylcheddol, amaethyddol, economaidd, ysbrydol, ieithyddol a diwylliannol a’i chynhaliai’n ecoleg cyfoethog a chyflawn: yn gymdeithas. Mi fydd yn archwilio cyd-destun gwleidyddol y penderfyniad i wagio’r mynydd a diddymu cymdogaeth Epynt gan sylwi’n neilltuol ar y tyndra rhwng yr awydd i orchfygu ffasgiaeth a Natziaeth ar y naill law ac i warchod iaith a diwylliant y Cymry ar y llall. Yn olaf, mi fydd y modiwl yn adnabod perthynas hanes gwagio mynydd Epynt â rhandiroedd eraill a wagiwyd yn orfodol yng Nghymru, yr Alban ac Iwerddon ddoe ac yn fyd eang heddiw.

Rhaglen y Cwrs

Cyflwynir y modiwl trwy gyfrwng seminarau ar lein ynghyd ac un seminar ar lun ymweliad â Mynydd Epynt.

Mi fydd y seminarau yn defnyddio archif sain, ffilm a lluniau ynghyd â thechnegau drama a fydd yn galluogi’r myfyrwyr i groesholi ffigurau amlwg o fewn y frwydr aflwyddianus i warchod mynydd Epynt rhag ei wagio.

Mi fydd pob seminar yn cynnwys cyfle i gydymaddysgu trwy gyfrwng cyd-gwestiynu a chyd-drafod.

Penawdau’r seminarau fydd...

  • Mynydd Pwy?
  • Troedwyr a Phererynion
  • Cymdogaeth, nid Cymuned
  • Iaith Tiriogaeth Brychan
  • Y Chwalfa: Ymosodwyr ac Amddiffynwyr
  • Y Chwalfa: Prosesau’r Gwagio a Diddymu
  • Y Chwalfa: Y Draweffaith
  • Epynt a Chymru: Gwagio a Diddymu
  • Epynt Ddoe a’r Byd Heddiw
  • Dad-ddiflannu Epynt (ymweliad maes)

Manylion y Cwrs

 

Canlyniadau Dysgu 

  1. Arddangos dealltwriaeth o bwysigrwydd absoliwt cyd-berthyn a chyd-ddibyniaeth o fewn cynefin natur a chymdeithas
  2. Trafod yn ddeallus natur y gwrthdaro rhwng anghenion y Lles Corfforaethol (Greater Good) ar y naill law a’r Lles Cymdeithasol (Common Good) ar y llall
  3. Arddangos dealltwriaeth o batrymau gwagio rhandiroedd a diddymu cymdogaethau hanesyddol yng Nghymru
  4. Cynnig critique o berthynas hanes gwagio Epynt â bygythiadau cyfoes i barhad ieithoedd lleiafrifol yn fyd-eang

Asesiadau 

  1. Adroddiad - 500 o eiriau. Panel Gwybodaeth. / dehongli ar gyfer ymwelwyr â safle capel Y Babell. (30%)
  2. Traethawd - 1500 o eiriau. Traethawd. Cyfoeth Coll Epynt. (70%)

Gofynion Mynediad 

Mae hwn yn gwrs i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Mae’r cwrs yn addas i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg.

Beth sydd ei angen arnaf? 

  • Mynediad i'r rhyngrwyd. 
  • Mynediad i liniadur neu gyfrifiadur gyda chamera gwe a meicroffon; gallai clustffonau fod yn ddefnyddiol hefyd. 
  • Defnyddiwch borwr gwe Chrome lle bo hynny'n bosi